Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Cymuned a Chymdogaeth » Defnydd iaith » Welsh Not

Canlyniadau 1 i 4 allan o 4

Tudalen 1

  • Cafwyd hyd i'r enghraifft hon o'r 'Welsh Not' yn Ysgol y Garth, Bangor.  Mae'r ysgol honno bellach wedi cael ei dymchwel.  Roedd y 'Welsh Not' yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ysgolion yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn ymgais i rwystro plant rhag siarad Cymraeg.  Darn o bren neu lechen fechan oedd y 'Welsh Not', a'r llythrennau 'W.N.' wedi eu torri arno.  Byddai'r 'Welsh Not' yn cael ei grogi o amgylch gwddf unrhyw blentyn a fyddai'n cael ei ddal yn siarad Cymraeg.  Byddai'r athro yn cosbi'r plentyn a fyddai'n ei wisgo ar ddiwedd y dydd.
'Welsh Not' o Ysgol y Garth, Bangor
  • Daw'r tudalennau canlynol o Lyfr Log Ysgol Brydeinig Tywyn, Sir Feirionnydd, ac maent yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 1863 a 1867.  Mae'r Llyfr Log hwn yn cynnwys sawl cyfeiriad at ymgais y prifathro, Mr Edwin Jones, i rwystro'r plant rhag siarad Cymraeg yn yr ysgol.  Ar y tudalen a ddangosir yma (14 Awst 1863), ysgrifennodd: 'I feel at a loss to know the best method to adopt in order to prevent the children generally from speaking Welsh.'  Esbonia ei fod wedi penderfynu defnyddio 'Welsh stick' neu 'Welsh Not' er mwyn cosbi'r plant sy'n siarad Cymraeg.

Roedd y 'Welsh Not' yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ysgolion yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn ymgais i rwystro plant rhag siarad Cymraeg.  Darn o bren neu lechen fechan oedd y 'Welsh Not', a'r llythrennau 'W.N.' wedi eu torri arno.  Byddai'r 'Welsh Not' yn cael ei grogi o amgylch gwddf unrhyw blentyn a fyddai'n cael ei ddal yn siarad Cymraeg.  Byddai'r athro yn cosbi'r plentyn a fyddai'n ei wisgo ar ddiwedd y dydd.
Llyfr Log Ysgol Brydeinig Towyn, Sir Feirionnydd, 1863-76 [tudalen 7, delwedd 1 o 34]
  • Daw'r enghraifft hon o'r 'Welsh Not' o Ysgol Llangernyw, Sir Ddinbych.  Roedd y 'Welsh Not' yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ysgolion yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn ymgais i rwystro plant rhag siarad Cymraeg.  

Darn o bren neu lechen fechan oedd y 'Welsh Not', a'r llythrennau 'W.N.' wedi eu torri arno.  Byddai'r 'Welsh Not' yn cael ei grogi o amgylch gwddf unrhyw blentyn a fyddai'n cael ei ddal yn siarad Cymraeg.  Byddai'r athro yn cosbi'r plentyn a fyddai'n ei wisgo ar ddiwedd y dydd.
'Welsh Not' o Ysgol Llangernyw, 19eg ganrif
  • Dwy enghraifft o'r 'Welsh Not'.  Mae'r enghraifft uchaf yn cynnwys yr arysgrif 'WN' ac roedd yn cael ei defnyddio yn Ysgol Pontgarreg, Llangrannog, Sir Aberteifi, ym 1852.  Mae'r enghraifft isaf yn cynnwys yr arysgrif 'Welsh N' a daethpwyd o hyd iddi wrth i weithwyr fynd ati i ddymchwel Capel Penrhiw, Drefach Felindre, er mwyn ei symud i safle Amgueddfa Werin Cymru.  Roedd ysgol yn arfer cael ei chynnal yn y capel yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Mae'r ddwy enghraifft bellach i'w gweld yn y brif oriel, Amgueddfa Werin Cymru.

Roedd y 'Welsh Not' yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ysgolion yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn ymgais i rwystro plant rhag siarad Cymraeg.  Darn o bren neu lechen fechan oedd y 'Welsh Not', a'r llythrennau 'W.N.' wedi eu torri arno. Byddai'r 'Welsh Not' yn cael ei grogi o amgylch gwddf unrhyw blentyn a fyddai'n cael ei ddal yn siarad Cymraeg. Byddai'r athro yn cosbi'r plentyn a fyddai'n ei wisgo ar ddiwedd y dydd.
Dwy enghraifft o'r 'Welsh Not'