Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Pobl wrth eu Gwaith » Gweision a gweithwyr ystâd » Gweision a morwynion

Canlyniadau 1 i 6 allan o 21

Tudalen 1

Tudalen 2

Tudalen 3

Tudalen 4

Nesaf

  • Roedd Amiga Lorenza Couroneu de Patrocini Castillo yn un o forwynion y gantores opera Adelina Patti.
Amiga Lorenza Couroneu de Patrocini Castillo, 1893
Indentur prentisiaeth plentyn (prentisiaeth ym maes gwyddor tŷ), Trefynwy, 1670
Portread o hen John, gwas yn Aberpergwm, gan George O. Delamotte, 15 Tachwedd 1818
  • Cafodd y rhybudd hwn ei gyhoeddi gan Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, tua 1920au.  Ar y pryd hwnnw, roedd nifer fawr o ferched ifainc yn gadael Cymru i weithio fel morwynion yn nhrefi a dinasoedd poblog Lloegr.  Gan fod gwaith ac arian yn brin mewn sawl ardal, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol, nid oedd gan y merched ifainc hyn fawr o ddewis ond gadael eu cartrefi i chwilio am waith.   Roedd mudiadau fel Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru yn awyddus i sicrhau bod y merched hyn yn dod o hyd i swyddi addas cyn iddynt ddechrau ar eu taith o Gymru.  Roedd nifer o straeon wedi ymddangos yn y wasg a oedd yn awgrymu bod rhai merched o Gymru yn gadael eu cartrefi heb unrhyw sicrwydd bod swydd yn aros amdanynt ar ben eu taith.  O ganlyniad, byddent yn cymryd swyddi gyda chyflogwyr 'anaddas' neu'n mynd i drafferth gyda'r heddlu a'r awdurdodau gan nad oedd ganddynt waith na llety.  Ar ddiwedd y rhybudd, nodir cyfeiriadau nifer o unigolion yn Llundain, Lerpwl, Manceinion, Birmingham a de Cymru, ac fe gynghorir pob merch i gysylltu â hwy cyn derbyn swydd yn y trefi hyn.
Rhybudd i'r 'Eneth Ieuanc Ddi-amddiffyn' gan Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, tua 1920au
  • Mae'r llythyr hwn yn adrodd hanes tân ar fferm Nantmawr, ger Llanrwst, ym 1824.  Cafodd y tân ei gynnau'n ddamweiniol gan un o'r morwynion a oedd yn cario cannwyll frwyn.  Ymledodd y tân yn gyflym gan achosi difrod mawr i'r adeiladau a'r stoc: llosgwyd 21 o'r gwartheg a difrodwyd ymron y cyfan o'r barlys a'r gwellt.  Ysgrifennwyd y llythyr hwn at y perchennog tir, Arglwydd Newborough, gan E. Owen, Melai, ar ran y tenant.  Gofynnodd iddo ystyried sefyllfa ariannol y tenant yn ofalus a thrugarhau wrtho pan fyddai'r taliad rhent nesaf yn ddyledus.  Adysgrif o'r llythyr:

'Dear Sir,
It is with much concern I inform you of the Afflicting event that happened at Nantmawr last Friday night after the family retired to bed except the two servant women, the youngest of them went to a bing[?] before the cattle with a rush candle in her hand to fetch a little straw to light fire the next morning and as I find by her holding the candle in a careless manner the straw took fire and entered into a great Quantity of straw which was above the cow houses - it is supposed that she tried to put it out - untill the other woman gave the alarm, by that time the fire raged so violently, that out of 22 head of cattle only 5 could be brought out and those very much burnt except one - the horses were in the adjoining stable they saved them with much difficulty but the gears[?] are all destroyed, the Barn comes next in which they had upwards of 20 hobbets of barley some in sacks and the rest unwinnowed only 3 or 4 sacks were saved.  A large stack of hay at the back of the building was entirely consumed, and also two stacks of Barley supposed to be about 30 hobbets which was all the barley they had - They were very fearfull ...'
Llythyr oddi wrth E. Owen, Melai, at William Elias, 'Abbey', Llanrwst, ynghlych tân a achoswyd gan gannwyll frwyn, 18 Ionawr 1824 [delwedd 1 o 3]
  • Anfonwyd y llythyr hwn, dyddiedig 14 Tachwedd 1844, gan Catharine Davies, a oedd yn gweini yn Edge Hill, Lerpwl, at ei rhieni (Mr a Mrs Hugh Davies), Erw Gron, Llanfairfechan.  Dywed ei bod wedi ymweld â 'Shire Caur' (Sir Gaer) yng nghwmni ei meistres a'r plant.  Cwyna na chaiff gyfle i fynd i'r capel yn gyson.  Dywed bod merch ifanc o Landygái sy'n gweithio i deulu cyfagos yn mynychu'r capel bod yn ail ddydd Sul, ond nid oes unrhyw blant yn y tŷ hwnnw.
Llythyr a anfonwyd gan Catharine Davies, morwyn yn Lerpwl, at ei rhieni yn Llanfairfechan, 14 Tachwedd 1844 [delwedd 1 o 4]