Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Protest a Gwleidyddiaeth » Pleidiau gwleidyddol » Plaid Genedlaethol Cymru/Plaid Cymru

Canlyniadau 1 i 6 allan o 13

Tudalen 1

Tudalen 2

Tudalen 3

Nesaf

  • Tocyn mynediad Mr J. T. Williams, Bwrdd Iechyd Cymru, Stryd y Farchnad, Caernarfon, i Frawdlys Caernarfon, 13 Hydref 1936, ar gyfer achos llys Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams.  Ar 8 Medi 1936, roedd y tri diffynnydd, pob un ohonynt yn aelodau blaenllaw o Blaid Genedlaethol Cymru, wedi cynnau tân yn fwriadol ar safle'r 'ysgol fomio' a oedd yn cael ei hadeiladu ym Mhenyberth, ger Pwllheli.
Tocyn mynediad i'r achos llys yn erbyn 'Tri Penyberth', Brawdlys Caernarfon, 1936 [delwedd 1 o 2]
  • Cafodd y 'darllediad' hwn ei baratoi gan Saunders Lewis ar gais y BBC, ar gyfer ei ddarlledu ar 6 Rhagfyr 1930.  Fodd bynnag, ar 4 Rhagfyr 1930, derbyniodd yr awdur neges gan swyddogion y BBC i ddweud nad oeddynt yn fodlon darlledu'r sgwrs.  Yn eu barn hwy, roedd Saunders Lewis wedi ei ysgrifennu gyda'r bwriad o ennyn cefnogaeth i'r mudiad cenedlaethol yng Nghymru.  Cyhoeddwyd y 'sgwrs' yn ei chyfanrwydd gan Blaid Genedlaethol Cymru ym 1931.
Saunders Lewis, 'The Banned Wireless Talk on Welsh Nationalism' (Caernarvon, 1930) [clawr, delwedd 1 o 8]
  • Ar glawr y pamffled hwn gan Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru, dangosir darlun gan Ivor Owen o Bob Roberts Tai'r Felin, y canwr baledi enwog.  Roedd cartref Bob Roberts gerllaw safle argae arfaethedig Tryweryn.
Gwynfor Evans, 'Save Cwm Tryweryn for Wales' (Plaid Cymru, 1956) [clawr, delwedd 1 o 27]
  • Darlledwyd darlith radio enwog Saunders Lewis, 'Tynged yr Iaith' ar 13 Chwefror 1962.  Yn ogystal â bod yn lenor a dramodydd adnabyddus, roedd Lewis yn genedlaetholwr blaenllaw ac ef oedd llywydd Plaid Genedlaethol Cymru rhwng 1926 a 1939.  Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, ciliodd Lewis o fywyd cyhoeddus yng Nghymru, ond ar ôl cyhoeddi canlyniadau cyfrifiad 1961 a ddatgelodd mai 26 y cant yn unig o'r boblogaeth a oedd yn siarad Cymraeg, penderfynodd ddychwelyd i'r llwyfan cyhoeddus.  Yn ei ddarlith, 'Tynged yr Iaith', amlinellodd yr argyfwng a oedd yn wynebu'r iaith Gymraeg a galwodd ar siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu dulliau anghyfansoddiadol o blaid yr iaith.  Cafodd ei ddarlith gryn ddylanwad ar y gwrandawyr gan ysbrydoli criw o Gymry ifainc i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mis Awst 1962.
Saunders Lewis, 'Tynged yr Iaith' (1962) [clawr, delwedd 1 o 17]
Gwynfor Evans, 'The Political Broadcasts Ban in Wales' (Llanelly, 1955) [clawr, delwedd 1 o 7]
  • Pamffled gan Saunders Lewis, a gyhoeddwyd gan Blaid Genedlaethol Cymru ym 1943.  Roedd Saunders Lewis yn llywydd Plaid Genedlaethol Cymru rhwng 1926 a 1939.  Yn yr ysgrif hwn, amlinellodd Lewis ei argymhellion ar gyfer polisi amaethyddol radical i Gymru.
Saunders Lewis, 'Cam-ffarmio Cymru' (Caernarfon, 1943) [clawr blaen, delwedd 1 o 6]