Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Protest a Gwleidyddiaeth » Pleidiau gwleidyddol » Y Blaid Ryddfrydol
David Lloyd George yn coroni'r Frenhines Fai yn Llandudno
  • Cadwodd David Lloyd George y dyddiadur hwn tra'r oedd yn gweithio fel cyfreithiwr yng Nghricieth.  Mae'n arbenning o ddidorol gan iddo ei ysgrifennu pan yr oedd ar drothwy ei yrfa wleidyddol.

Mae'r dyddiadur yn cynnwys cofnodion hir sy'n rhoi manylion am fywyd personol Lloyd George yn ogystal â'i weithgareddau cyhoeddus.  Yn arbennig, mae'n disgrifio ei araith gyhoeddus cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog ar 12 Chwefror.  Gwnaeth yr araith hon argraff ddofn yn lleol ac fe arweiniodd at sôn y byddai'n cael ei wahodd i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol Meirionnydd y flwyddyn honno.

Yn y cofnodion sy'n dilyn, disgrifia Lloyd George yn agored ac mewn cryn fanylder,  ei weithgareddau gwleidyddol, ei ddyheadau a'i uchelgais. Ceir nifer o gyfeiriadau dadlennol hefyd at ei garwriaeth gyda Margert Owen o Fynydd Ednyfed, Cricieth.

Etholwyd Lloyd George i'r Senedd ym 1890 a daeth yn Brifweinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ym mis Rhagfyr, 1916.  Ymddiswyddodd ym 1922 ond parhaodd yn Aelod Seneddol tan 1944.
Dyddiadur David Lloyd George, 1886, clawr [delwedd 1 o 146]
Alex Carlisle gan Dorrien
David Lloyd George yn annerch cyfarfod ym Mhafiliwn Caernarfon, c. 1900-10
  • Cafodd y ffotograff hwn ei dynnu ym 1944, yn fuan wedi i David Lloyd George ymddeol i Dŷ Newydd, Llanystumdwy.
David Lloyd George ar y bont yn Llanystumdwy, 1944
  • Mae'r capsiwn ar waelod y cerdyn post hwn yn darllen fel a ganlyn: 'Winston - Lloyd George's youngest canvasser'.  Mae'r plentyn yn gwisgo dilledyn gyda'r slogan 'Vote Lloyd George'.
David Lloyd George a'i gefnogwyr, gan gynnwys plentyn ifanc, dechrau'r 20fed ganrif