Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Protest a Gwleidyddiaeth » Terfysgoedd a gwrthdystiadau » Tryweryn
  • Cyhoeddwyd y cylchlythyr hwn gan Bwyllgor Amddiffyn Tryweryn c. 1957.  Tynnwyd y ffotograffau du a gwyn trawiadol o Gapel Celyn gan Geoff Charles, ffotograffydd gyda chwmni papurau newydd Woodalls, a fu'n gweithio'n bennaf gyda phapur newydd Cymraeg wythnosol, 'Y Cymro'.  

Sefydlwyd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn ym mis Mawrth 1956, yn fuan wedi i Gorfforaeth Lerpwl gyhoeddi ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala.  Er gwaethaf ymdrechion y Pwyllgor, ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl.  Dechreuodd y gwaith ar y safle dair blynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.  Yn ogystal â cholli eu cartrefi a'u tiroedd, collodd trigolion Capel Celyn eu hysgol leol a'u capel.  Datgloddiwyd rhai o'r cyrff yn y fynwent a'u symud i Lan-y-cil, a gorchuddiwyd y gweddill â choncrit.
Cylchgrawn Tryweryn, cyhoeddwyd gan Bwyllgor Amddiffyn Tryweryn, c. 1957, clawr [delwedd 1 o 7]
  • Ar glawr y pamffled hwn gan Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru, dangosir darlun gan Ivor Owen o Bob Roberts Tai'r Felin, y canwr baledi enwog.  Roedd cartref Bob Roberts gerllaw safle argae arfaethedig Tryweryn.
Gwynfor Evans, 'Save Cwm Tryweryn for Wales' (Plaid Cymru, 1956) [clawr, delwedd 1 o 27]
  • Anfonwyd y llythyr hwn sydd heb ei ddyddio at Thomas Alker, Clerc Corfforaeth Lerpwl, gan Elizabeth M. Watkin Jones, Ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn.  Sefydlwyd y Pwyllgor ym mis Mawrth 1956, yn fuan wedi i Gorfforaeth Lerpwl gyhoeddi ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. 

Lansiodd y Pwyllgor ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau i foddi Cwm Celyn.  Yn ogystal â chanfasio awdurdodau lleol, unigolion a chyrff cenedlaethol, trefnodd y Pwyllgor gyfres o gyfarfodydd, cynadleddau a ralïau protest ar draws gogledd Cymru ac yn ninas Lerpwl.  Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymdrechion ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl.  Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Yn y llythyr hwn (yr ymddengys iddo gael ei ysgrifennu ar ôl i'r Ddeddf gael ei phasio), mae Elizabeth M. Watkin Jones yn gofyn i Gorfforaeth Lerpwl ystyried un cais olaf gan aelodau'r Pwyllgor.  Maent yn awyddus i sicrhau mai 'Llyn Celyn' fydd enw'r gronfa ddŵr newydd, yn hytrach na 'Llyn Tryweryn': 'From time immemorial the area which will be submerged and the surrounding district has been called by the natives Cwm Celyn - thus taking the name of the tributary of the Tryweryn river.  All living octogenarians still refer to the place by this name'.
Llythyr a anfonwyd gan Bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn at Mr Thomas Alker, d.d. [1956?] [delwedd 1 o 2]
  • Anfonwyd y llythyr hwn, dyddiedig 2 Gorffennaf 1956, at Thomas Alker, Clerc Corfforaeth Lerpwl, gan Elizabeth M. Watkin Jones, Ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn.  Sefydlwyd y Pwyllgor ym mis Mawrth 1956, yn fuan wedi i Gorfforaeth Lerpwl gyhoeddi ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. 

Lansiodd y Pwyllgor ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau i foddi Cwm Celyn.  Yn ogystal â chanfasio awdurdodau lleol, unigolion a chyrff cenedlaethol, trefnodd y Pwyllgor gyfres o gyfarfodydd, cynadleddau a ralïau protest ar draws gogledd Cymru ac yn ninas Lerpwl.  Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymdrechion ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl.  Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Yn y llythyr hwn, gofynna'r Pwyllgor am gynnal cyfarfod brys gydag aelodau Corfforaeth Lerpwl, 'to ensure that your City Council, and through it the people of Liverpool are aware of the grounds of the Welsh opposition to the proposed drowning of Cwm Tryweryn'.  Roedd aelodau Cyngor Lerpwl eisoes wedi gwrthod cais tebyg ddwywaith o'r blaen ac roedd y Pwyllgor Amddiffyn yn awyddus iawn iddynt ailystyried eu penderfyniad.
Llythyr a anfonwyd gan Bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn at Mr Thomas Alker, 2 Gorffennaf 1956 [delwedd 1 o 2]
  • Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn ym mis Mawrth 1956.  Sefydlwyd y Pwyllgor yn fuan wedi i Gorfforaeth Lerpwl gyhoeddi ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala.  Etholwyd y canlynol yn swyddogion y Pwyllgor:  Llywydd: y Parchedig H. W. Hughes, Fron-goch; Is-lywydd: y Cynghorydd David Roberts, Caefadog; Trysorydd: John Abel Jones, Hafodwen; Ysgrifennydd: Elizabeth M. Watkin Jones.  Ymddiswyddodd y Llywydd, y Parchedig H. W. Hughes, ym mis Mehefin 1956 gan ei fod yn gadael yr ardal ac etholwyd E. P. Roberts, Llanfor, yn ei le.  Ym mis Medi 1957, ymddiswyddodd E. P. Roberts yntau ac etholwyd David Roberts, Caefadog, yn Llywydd newydd y Pwyllgor.

Lansiodd y Pwyllgor ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau i foddi Cwm Celyn.  Yn ogystal â chanfasio awdurdodau lleol, unigolion a chyrff cenedlaethol, trefnodd y Pwyllgor gyfres o gyfarfodydd, cynadleddau a ralïau protest ar draws gogledd Cymru ac yn ninas Lerpwl.  Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymdrechion ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl.  Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.
Llyfr Cofnodion Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn, 1956-1958 [delwedd 1 o 50]
Erthygl bapur newydd ynghylch boddi Cwm Tryweryn: 'New Obstacle to Water Scheme' [Chwefror 1957]