Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Crefydd a Chred » Enwadau anghydffurfiol » Williams, William (Pantycelyn) (1717-91)

Canlyniadau 1 i 3 allan o 3

Tudalen 1

  • Dyma ddarn o waith gan y Parchedig William Williams, Pantycelyn (1717-1791), yn ei law ei hun.  Nid yw'n ymddangos i'r darn hwn gael ei gyhoeddi erioed.

Ganed 'Williams Pantycelyn' yng Nghefn-coed, ger Llanymddyfri ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin.  Derbyniodd ei addysg yn Academi Llwyn-llwyd a'i fwriad oedd mynd yn feddyg.  Fodd bynnag, ar ôl iddo glywed Howell Harris (1714-1773) yn pregethu yn Nhalgarth, cafodd Williams droedigaeth.  Ymunodd â'r Eglwys a chafodd ei ordeinio'n ddiacon ym 1740.  Yn ystod y blynyddoedd dilynol, trôdd ei sylw fwyfwy at y mudiad Methodistaidd a chyn hir, ef oedd un o arweinwyr mwyaf blaenllaw'r mudiad yng Nghymru.  Ar ôl iddo briodi ym 1748 aeth i fyw i hen gartref ei fam, Pantycelyn, yn ei blwyf enedigol.  Ystyrir Williams yn un o emynwyr pwysicaf a mwyaf poblogaidd Cymru; yn wir, cymaint oedd ei gyfraniad ym maes emynyddiaeth fel iddo gael ei anrhydeddu gyda'r teitl 'Y Pêr Ganiedydd'.  Cyfansoddodd dros 800 o emynau ac mae nifer fawr ohonynt yn dal i gael eu canu heddiw.  Roedd hefyd yn fardd a chyhoeddodd sawl darn o ryddiaith yn ogystal.  Bu farw ym 1791 a chafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Llanfair-ar-y-bryn, Llanymddyfri.
Barddoniaeth grefyddol gan y Parch. William Williams, Pantycelyn, tudalen 1 o 56
  • Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.  Ganed 'Williams Pantycelyn' yng Nghefn-coed, ger Llanymddyfri ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin.  Derbyniodd ei addysg yn Academi Llwyn-llwyd a'i fwriad oedd mynd yn feddyg.  Fodd bynnag, ar ôl iddo glywed Howell Harris (1714-1773) yn pregethu yn Nhalgarth, cafodd Williams droedigaeth.  Ymunodd â'r Eglwys a chafodd ei ordeinio'n ddiacon ym 1740.  Yn ystod y blynyddoedd dilynol, trôdd ei sylw fwyfwy at y mudiad Methodistaidd a chyn hir, ef oedd un o arweinwyr mwyaf blaenllaw'r mudiad yng Nghymru.  Ar ôl iddo briodi ym 1748 aeth i fyw i hen gartref ei fam, Pantycelyn, yn ei blwyf enedigol.  Ystyrir Williams yn un o emynwyr pwysicaf a mwyaf poblogaidd Cymru; yn wir, cymaint oedd ei gyfraniad ym maes emynyddiaeth fel iddo gael ei anrhydeddu gyda'r teitl 'Y Pêr Ganiedydd'.  Cyfansoddodd dros 800 o emynau ac mae nifer fawr ohonynt yn dal i gael eu canu heddiw.  Roedd hefyd yn fardd a chyhoeddodd sawl darn o ryddiaith yn ogystal.  Bu farw ym 1791 a chafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Llanfair-ar-y-bryn, ger Llanymddyfri.
Pantycelyn, cartref yr emynydd William Williams, 1 Mehefin 1953
  • Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas, tua'r flwyddyn 1885.

Roedd Howel Harris (1714-73) o Drefeca, Sir Frycheiniog, yn un o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru yn ystod y 18fed ganrif.  Bu'n gweithio fel athro mewn ysgol yn Llan-gors cyn iddo gael troedigaeth grefyddol tra'n gwrando ar ficer Talgarth yn pregethu ym 1735.  Dechreuodd bregethu yn yr ardal, ac ym 1737 cyfarfu â Daniel Rowland (?1711-90), ciwrad o Langeitho, Sir Aberteifi, a oedd wedi ysbrydoli nifer fawr o bobl gyda'i bregethu grymus.  Roedd y cyfarfod hwn yn un arwyddocaol iawn gan iddo nodi dechrau'r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru.  Yn ystod y degawd dilynol, teithiodd Harris ledled Cymru, yn pregethu sawl gwaith y dydd weithiau, a chan sefydlu 'seiadau' wrth iddo fynd yn ei flaen.  Roedd William Williams (Pantycelyn, 1716-91), yr emynydd adnabyddus, ymhlith y cannoedd o Gymry a gafodd droedigaeth wrth wrando ar Harris yn pregethu.  Bu Harris hefyd yn efengylu yn Lloegr lle bu'n cydweithio â'r arweinwyr Methodist enwog George Whitfield a'r brodyr Wesley.  Ym 1750 digwyddodd rhaniad ymhlith dilynwyr Harris a dilynwyr Daniel Rowland ('Yr Ymraniad Mawr' fel y'i gelwid), ac o'r dyddiad hwnnw rhannwyd Methodistiaeth yng  Nghymru.  Ymddeolodd Harris i Drefeca gyda'i ddilynwyr ym 1752, lle sefydlodd wasg argraffu.  Ym 1760, fe'i cyfamodwyd â'i hen gyfeillion Rowland a John Wesley.  Yn ddiweddarach, sefydlodd Iarlles Huntingdon goleg yn Nhrefeca i hyfforddi pregethwyr ifainc a bu Harris yn cynorthwyo gyda'r gwaith hwn.  

Roedd Harris yn ysgrifennwr toreithiog a gadawodd ar ei ôl gasgliad mawr o bapurau personol, llythyrau a dyddiaduron.  Mae'r casgliad hwn yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ffotograff o ran o ddyddiadur Howel Harris ar gyfer Dydd Sul 3 Ionawr, a Dydd Llun 4 Ionawr 1747