Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Rhyfel a Gwrthryfel » Pobl » Croes Victoria

Canlyniadau 1 i 6 allan o 7

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

  • Ganed John (Jack) Henry Williams yn Nant-y-glo, Sir Fynwy, ym 1886.  Roedd yn gweithio fel gof yn y pwll glo ac fe ymunodd â 10fed Cyffinwyr De Cymru ym mis Tachwedd 1914.  Mae'r ffotograff hwn wedi'i arwyddo a'i ddyddio 12 Chwefror 1924.  Yn ôl yr adroddiad swyddogol, derbyniodd Williams Groes Victoria am y rhesymau canlynol: 

'For most conspicuous bravery, initiative and devotion to duty on the night of the 7th-8th October, 1918, during the attack on Villers Outreaux, when, observing that his company was suffering heavy casualties from an enemy machine gun, he ordered a Lewis gun to engage it, and went forward under heavy fire to the flank of the enemy post, which he rushed single-handed, capturing fifteen of the enemy.  These prisoners, realising that Williams was alone turned on him and one of them gripped his rifle.  He succeeded in breaking away and bayoneting five enemy, whereupon the remainder again surrendered.  By this gallant action and total disregard of personal danger he was the means of enabling not only his own company but also those on the flanks to advance'.
Yr Uwch-ringyll Cwmni John Henry Williams, y milwr Cymreig a dderbyniodd y nifer mwyaf o fedalau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, 12 Chwefror 1924
  • Anrhydeddwyd John (Jack) Henry Williams VC DCM MM â Chroes Victoria ym 1918 a John Williams VC oedd un o'r amddiffynwyr yn Rorke's Drift ym 1879.
Y Cyn Uwch-ringyll Cwmni Jack Williams a'r cyn Breifat John John Williams y tu allan i'r Ystafell Warchod, Barics Aberhonddu yn ystod Aduniad y Cymdeithion, 15 Mai 1932
  • Mae'r cofnod canlynol, yn llaw'r Prifathro, Mr F. G. Cooper, yn ymddangos yn llyfr log Ysgol Briery Hill i Fechgyn: 

Adysgrif:

'June 17th 1920
At 3.30 pm the important unveiling ceremony in the history of the school took place: (1) The Roll of Honour (2) The photograph of our VC - CSM J Williams (3) The photograph of the retiring Mayor, Councillor John Lewis, the old Headmaster of the School.'
Dathliadau yn Ysgol Briery Hill i Fechgyn lle caiff portread o John Henry William ei ddal i fyny, 17 Mehefin 1920
  • Croes Victoria yw gwobr dewrder uchaf Prydain ac fe'i sefydlwyd ym mis Ionawr 1856.  Dim ond 1,354 (gan gynnwys tri bar i filwyr sydd wedi derbyn y fedal ddwywaith) sydd wedi'u cyflwyno erioed.  Mae 81o filwyr sydd ganddynt gysylltiadau Cymreig wedi ennill y fedal werthfawr hon. Cyflwynwyd y Groes Victoria sydd i'w gweld yma i'r Preifat John Williams VC Milwyr Traed Rhif 2/24 am ei weithredoedd wrth amddiffyn Rorke's Drift yn ystod y rhyfel Eingl-Zwlŵaidd 1879.  Ganed John Fielding (a wasanaethodd o dan yr enw John Williams) yn Y Fenni, Sir Fynwy, bu'n byw yng Nghwmbrân ac fe'i gladdwyd yn Llantarnam.
Croes Victoria a wobrwywyd i John Williams yn ystod y rhyfel Eingl-Zwlŵaidd, 1879
  • Anfonwyd y neges faes hon at bennaeth milwrol Bataliwn Rhif 10, Cyffinwyr De Cymru, gan Gadlywydd Brigâd Rhif 115 ar 7 Rhagfyr 1918:

'CSM WILLIAMS AWARDED THE VICTORIA CROSS AAA. BRIGADE COMMANDER THANKS CSM WILLIAMS FOR THE HONOUR HE HAS BROUGHT TO THE BRIGADE.'
Neges faes yn datgan bod yr Uwch-Sarsiant J. H. Williams wedi derbyn Croes Victoria, 7 Rhagfyr 1918
  • Croes Victoria yw gwobr dewrder uchaf Prydain ac fe'i sefydlwyd ar 29 Ionawr 1856.  Dim ond 1,354 sydd wedi'u cyflwyno erioed.  Dyma'r Groes Victoria a gyflwynwyd i'r Is-gapten Gonville Bromhead am ei weithredoedd wrth amddiffyn gorsaf ac ysbyty dros dro Rorke's Drift, ar lannau Afon Buffalo, Natal, ar 22 Ionawr 1879. Bromhead oedd y swyddog a oedd yn rheoli Cwmni B, 2il Fataliwn, Catrawd Rhif 24 Cyffinwyr De Cymru.  Roedd pencadlys y Gatrawd hon yn Aberhonddu ac yn ddiweddarach enwyd y Gatrawd yn Cyffinwyr De Cymru.
Medal Croes Victoria a gyflwynwyd i'r Is-gapten Gonville Bromhead, 1879