Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Rhyfel a Gwrthryfel » Rhyfel y Zwlw (1879) » Brwydr Rorke's Drift, 1879

Canlyniadau 1 i 6 allan o 10

Tudalen 1

Tudalen 2

Nesaf

  • Roedd Evan Jones (1859-1931) o Lyn Ebwy wedi bod yn ymladd yn Rorke's Drift, a wynebodd gyfnod pellach o ryfela  ym Myrma (1887-1889).  Bu'n gwasanaethu mewn nifer o unedau nes iddo gael ei ryddhau o'r fyddin ym 1920, a hynny wedi iddo gwblhau cyfnod o 43 mlynedd o wasanaeth milwrol.
Evan Jones, a fu'n ymladd yn Rorke's Drift - tynnwyd y llun, tua'r flwyddyn 1917
  • Mae'r fedal hon yn cofnodi un o'r rhyfeloedd mwyaf dramatig yn hanes milwrol Prydain.  Cafodd ei chyflwyno i'r Preifat Evan Jones, 2/24ain Milwyr Traed, sef un o'r garsiynau bychain yn Rorke's Drift a lwyddodd i oresgyn ymosodiad gan filoedd o ryfelwyr Zwlw ar 23 Ionawr 1879 - y diwrnod wedi i'r Zwlws chwalu byddin Brydeinig fawr yn Isandhlwana gerllaw.
Medal Ymgyrchu, De Affrica, 1877-9 [delwedd 1 o 2]
  • Mae'r ffilm 'Zulu' yn adrodd hanes digwyddiadau arwyddocaol yn hanes milwrol Cymru - sef amddiffyniad Rorke's Drift ar 22 a 23 Ionawr 1879.  Dyfarnwyd un ar ddeg o Groesau Victoria, saith i Filwyr Traed Rhif 24, Cyffinwyr De Cymru yn ddiweddarach.  Cyd-gynhyrchwyd y ffilm gan Stanley Baker a Cy Endfield.  Yng Nghymru y dangoswyd y ffilm gyntaf a hynny yn Sinema Olympia, Caerdydd.  Chwaraewyd rhan yr Is-gapten John Chard VC gan (Syr) Stanley Baker o Gwm Rhondda, a (Syr) Michael Caine oedd yn chwarae rhan yr Is-gapten Gonville Bromhead VC.
Rhaglen Premier Gymreig y ffilm 'Zulu', clawr, 23 Mawrth 1964
  • Anrhydeddwyd John (Jack) Henry Williams VC DCM MM â Chroes Victoria ym 1918 a John Williams VC oedd un o'r amddiffynwyr yn Rorke's Drift ym 1879.
Y Cyn Uwch-ringyll Cwmni Jack Williams a'r cyn Breifat John John Williams y tu allan i'r Ystafell Warchod, Barics Aberhonddu yn ystod Aduniad y Cymdeithion, 15 Mai 1932
  • Croes Victoria yw gwobr dewrder uchaf Prydain ac fe'i sefydlwyd ym mis Ionawr 1856.  Dim ond 1,354 (gan gynnwys tri bar i filwyr sydd wedi derbyn y fedal ddwywaith) sydd wedi'u cyflwyno erioed.  Mae 81o filwyr sydd ganddynt gysylltiadau Cymreig wedi ennill y fedal werthfawr hon. Cyflwynwyd y Groes Victoria sydd i'w gweld yma i'r Preifat John Williams VC Milwyr Traed Rhif 2/24 am ei weithredoedd wrth amddiffyn Rorke's Drift yn ystod y rhyfel Eingl-Zwlŵaidd 1879.  Ganed John Fielding (a wasanaethodd o dan yr enw John Williams) yn Y Fenni, Sir Fynwy, bu'n byw yng Nghwmbrân ac fe'i gladdwyd yn Llantarnam.
Croes Victoria a wobrwywyd i John Williams yn ystod y rhyfel Eingl-Zwlŵaidd, 1879
  • Roedd y frwydr i amddiffyn Rorke's Drift ar 22/23 Ionawr 1879 yn ddigwyddiad arwyddocaol yn hanes milwrol Cymru.  Llwyddodd 140 o filwyr Prydeinig, a oedd wedi eu lleoli mewn gorsaf fasnachu fechan wrth y fan lle mae Afon Buffalo yn croesi i Wlad y Zwlw, i gadw 4500 o ryfelwyr Zwlŵiadd draw am dros 12 awr.  Cyflwynwyd 11 o Groesau Victoria i'r milwyr Prydeinig, 7 i filwyr traed Rhif 24, yn ddiweddarach Cyffinwyr De Cymru.  Tynnwyd y ffotograff hwn yn fuan wedi'r ymladd gan Lloyd o Pietermaritzburg.
'Rorke's House', 1879