Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Rhyfel a Gwrthryfel » Rhyfel y Zwlw (1879) » Cyffinwyr De Cymru

Canlyniadau 1 i 6 allan o 14

Tudalen 1

Tudalen 2

Tudalen 3

Nesaf

  • Adeilad anferth y Tŵr ger y fynedfa i'r Barics milwrol yn Watton, Aberhonddu.  Adeiladwyd storfa arfau yma ym 1805, ond er mwyn ateb y galwadau cynyddol yn sgil ymgyrchoedd milwrol niferus Oes Victoria, aethpwyd ati i godi'r barics yn y 1840au.  Cwblhawyd y Tŵr ym 1879.  Roedd Cyffinwyr De Cymru, a ddaeth yn enwog am eu campau yn y rhyfeloedd Eingl-Zulu, wedi eu lleoli yma.
Y Barics, Aberhonddu, 1900au
  • Wedi symud ymlaen i Wlad y Zwlw, yn gynnar ar 22 Ionawr 1879, rhannodd Yr Arglwydd Chelmsford ei fyddin yn ddwy.  Aeth un hanner i edrych am brif fyddin y Zwlw, gan adael yr hanner arall yn y gwersyll yn Isandhlwana o dan awdurdod Cyrnol Henry Pulleine 1/24ain.  Ymosododd y Zwlŵaid ar y gwersyll gyda 25,000 o ryfelwyr.  Lladdwyd 850 o'r 1,700 o filwyr Prydeinig a Threfedigaethol yn y gwersyll.  Collodd Milwyr Traed Rhif 24 - Cyffinwyr De Cymru yn ddiweddarach - 596 o ddynion y diwrnod hwnnw.  Mae neges olaf y Cyrnol Pulleine at yr Arglwydd Chelmsford yn darllen fel a ganlyn:

'Staff Officer - Report just come in that Zulus are advancing in force from the left front of the cam (8.5 am).  H B Pulleine, Lt. Col'.

Derbyniwyd y neges am 9.30 y bore gan y Capten Hallam Parr, Swyddog Staff ar y maes gyda'r Arglwydd Chelmsford.
Neges olaf Cyrnol Henry Pulleine o Isandlwana, Gwlad y Zwlw, 22 Ionawr 1879
  • Mae'r ffilm 'Zulu' yn adrodd hanes digwyddiadau arwyddocaol yn hanes milwrol Cymru - sef amddiffyniad Rorke's Drift ar 22 a 23 Ionawr 1879.  Dyfarnwyd un ar ddeg o Groesau Victoria, saith i Filwyr Traed Rhif 24, Cyffinwyr De Cymru yn ddiweddarach.  Cyd-gynhyrchwyd y ffilm gan Stanley Baker a Cy Endfield.  Yng Nghymru y dangoswyd y ffilm gyntaf a hynny yn Sinema Olympia, Caerdydd.  Chwaraewyd rhan yr Is-gapten John Chard VC gan (Syr) Stanley Baker o Gwm Rhondda, a (Syr) Michael Caine oedd yn chwarae rhan yr Is-gapten Gonville Bromhead VC.
Rhaglen Premier Gymreig y ffilm 'Zulu', clawr, 23 Mawrth 1964
  • Anrhydeddwyd John (Jack) Henry Williams VC DCM MM â Chroes Victoria ym 1918 a John Williams VC oedd un o'r amddiffynwyr yn Rorke's Drift ym 1879.
Y Cyn Uwch-ringyll Cwmni Jack Williams a'r cyn Breifat John John Williams y tu allan i'r Ystafell Warchod, Barics Aberhonddu yn ystod Aduniad y Cymdeithion, 15 Mai 1932
  • Ysgrifennwyd y llythyr hwn ychydig cyn i'r ymgyrch Eingl-Zwlŵaidd ddechrau ac mae'n darllen:

'Perie Bush April 17th 1878

Dear Father and Mother and Sisters

I have had a chance once more to write to you a few lines to let you now all that I am safe and healthy at preasant and hope that you are all the same. Dear Father and Mother I hope. that whe shall meet once more if the Lord pleace I ham in a strange country but got plenty of friends wher are all 4 Jolly Welshmen together not liveing very fare from one another to the reason that I did not write sooner I have had no chance whe whent on board the ship on the first of February and whe sail out on the second of the same date and whe reach Madera in 5 days but whe did not stop there at all whe stop at Simons Bay one night and a day and then whe sail on to East London in 38 days that was the 10th of March and I was not thinking nothing about Llangyfalach fair then only just now I was glad to have my feet on Land once more I casn tell you.  Whe stop at East London one night and then march up the country a few miles and whe with the train about 40 miles to King Williamson whe stop there two nights no train to further and march then on 13th March across the river Buffilo and to a place they call Green River stop there one night next day whe march to Baily's Grave and from there to Perie Bush hear I have all wonders.  Evry sort of Birds monkys one particular thing I have notice his a Grasspoper his so big has a black bird wonderful sise and you can see a Butterfly so big has any of the Black Martin his building in Hebron Chapel there his millions of goats her Buloxe and nothing to be seen very pretty whe had a weding here today two natives of the fingoes tribe the young man give to old woman the young womans another the best ten head of cattle and then they go to church a few minutes and come out and then they have man and wife but a Boar and a Sow I call them myselfe.  I got plenty to eat here you can by a sheep for five shillings good one to I can say now that I have full oranges from the tree without asking anybody so now I much conclude with my kind love to you all many times give my kind love to little Sally if she his alive and let me now how she his comeing on I am going on sentry now I will write one every week now if I can this morning I had the paper and stamp.

 From youre truly Son 

G.E.J.Griffiths'
Llythyr a ysgrifennwyd gan Preifat Griffith Griffiths, Peribush, Natal, at ei deulu yng Nghlydach, ger Abertawe, 17 Ebrill 1878, tudalen 1 o 3
  • Croes Victoria yw gwobr dewrder uchaf Prydain ac fe'i sefydlwyd ym mis Ionawr 1856.  Dim ond 1,354 (gan gynnwys tri bar i filwyr sydd wedi derbyn y fedal ddwywaith) sydd wedi'u cyflwyno erioed.  Mae 81o filwyr sydd ganddynt gysylltiadau Cymreig wedi ennill y fedal werthfawr hon. Cyflwynwyd y Groes Victoria sydd i'w gweld yma i'r Preifat John Williams VC Milwyr Traed Rhif 2/24 am ei weithredoedd wrth amddiffyn Rorke's Drift yn ystod y rhyfel Eingl-Zwlŵaidd 1879.  Ganed John Fielding (a wasanaethodd o dan yr enw John Williams) yn Y Fenni, Sir Fynwy, bu'n byw yng Nghwmbrân ac fe'i gladdwyd yn Llantarnam.
Croes Victoria a wobrwywyd i John Williams yn ystod y rhyfel Eingl-Zwlŵaidd, 1879