Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Rhyfel a Gwrthryfel » Rhyfel y Zwlw (1879) » Medalau

Canlyniadau 1 i 3 allan o 3

Tudalen 1

  • Mae'r fedal hon yn cofnodi un o'r rhyfeloedd mwyaf dramatig yn hanes milwrol Prydain.  Cafodd ei chyflwyno i'r Preifat Evan Jones, 2/24ain Milwyr Traed, sef un o'r garsiynau bychain yn Rorke's Drift a lwyddodd i oresgyn ymosodiad gan filoedd o ryfelwyr Zwlw ar 23 Ionawr 1879 - y diwrnod wedi i'r Zwlws chwalu byddin Brydeinig fawr yn Isandhlwana gerllaw.
Medal Ymgyrchu, De Affrica, 1877-9 [delwedd 1 o 2]
  • Croes Victoria yw gwobr dewrder uchaf Prydain ac fe'i sefydlwyd ym mis Ionawr 1856.  Dim ond 1,354 (gan gynnwys tri bar i filwyr sydd wedi derbyn y fedal ddwywaith) sydd wedi'u cyflwyno erioed.  Mae 81o filwyr sydd ganddynt gysylltiadau Cymreig wedi ennill y fedal werthfawr hon. Cyflwynwyd y Groes Victoria sydd i'w gweld yma i'r Preifat John Williams VC Milwyr Traed Rhif 2/24 am ei weithredoedd wrth amddiffyn Rorke's Drift yn ystod y rhyfel Eingl-Zwlŵaidd 1879.  Ganed John Fielding (a wasanaethodd o dan yr enw John Williams) yn Y Fenni, Sir Fynwy, bu'n byw yng Nghwmbrân ac fe'i gladdwyd yn Llantarnam.
Croes Victoria a wobrwywyd i John Williams yn ystod y rhyfel Eingl-Zwlŵaidd, 1879
  • Croes Victoria yw gwobr dewrder uchaf Prydain ac fe'i sefydlwyd ar 29 Ionawr 1856.  Dim ond 1,354 sydd wedi'u cyflwyno erioed.  Dyma'r Groes Victoria a gyflwynwyd i'r Is-gapten Gonville Bromhead am ei weithredoedd wrth amddiffyn gorsaf ac ysbyty dros dro Rorke's Drift, ar lannau Afon Buffalo, Natal, ar 22 Ionawr 1879. Bromhead oedd y swyddog a oedd yn rheoli Cwmni B, 2il Fataliwn, Catrawd Rhif 24 Cyffinwyr De Cymru.  Roedd pencadlys y Gatrawd hon yn Aberhonddu ac yn ddiweddarach enwyd y Gatrawd yn Cyffinwyr De Cymru.
Medal Croes Victoria a gyflwynwyd i'r Is-gapten Gonville Bromhead, 1879