Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Awyrlun o Gastell Harlech, 1993
Adeiladwyd Castell Harlech rhwng 1283 a 1289 gan Meistr James, St George, pensaer a saer maen Brenin Edward I. Ym 1286, pan oedd y gwaith adeiladu ar ei anterth, roedd bron i 950 o ddynion yn cael eu cyflogi yno dan oruchwyliaeth Meistr James. Codwyd castell hollol gonsentrig, lle mae un mur amddiffynnol yn cael ei chau gan fur arall. Yn anffodus, mae'r mur allanol yn adfail heddiw ac nid yw ffurf gwreiddiol y castell yn y 13eg ganrif yn gwbl amlwg.
Chwaraeodd Castell Harlech ran bwysig yn y gwrthryfel cenedlaethol a arweiniwyd gan Owain Glyn Dwr. Yn dilyn gwarchae hir, cipiwyd y castell gan filwyr Glyn Dwr ym 1404. Daeth y castell yn gartref a phencadlys i Glyn Dwr a chredir iddo gynnal seneddau yno. Yn dilyn gwarchae hir ym 1408, cafodd Harlech ei chipio yn ôl gan y Saeson dan arweiniad Harri o Fynwy, sef Brenin Harri V yn ddiweddarach.
Ffynhonnell: http://www.castlewales.com/harlech.html
