Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Awyrlun o dref Cydweli, 1989

Awyrlun o dref Cydweli, 1989 Sefydlwyd castell Normanaidd Cydweli fel gwrthglawdd anferth ar ddechrau'r 12fed ganrif. Cafodd y castell carreg ei godi gan deulu de Chaworth a'i addasu gryn dipyn yn ddiweddarach gan ieirll (yna dugiaid) Caerhirfryn. Ymosododd y Cymry ar y castell sawl tro ar ddiwedd y 12fed ganrif a dechrau'r 13eg ganrif ac ym 1159 llosgwyd y castell gan yr Arglwydd Rhys (Rhys ap Gruffudd). Credir mai ef a ailgododd y castell ym 1190. Erbyn 1201, fodd bynnag, roedd y castell yn ôl yn nwylo'r Normaniaid ac fe barhaodd dan awdurdod y Saeson o hynny ymlaen. Yn ystod Gwrthryfel Glyn Dŵr, ymosododd y Cymry ar y dref a'r castell. Llwyddwyd i gipio'r dref a bu'r castell dan warchae am dair wythnos hyd nes i fyddin o Loegr gyrraedd a threchu'r Cymry. Difrodwyd y castell yn sylweddol yn ystod yr ymladd hwn. Ffynhonnell: http://www.cadw.wales.gov.uk/ http://www.castlewales.com/kidwelly.html


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ00220

Daw'r eitem hon o: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (Cyfeirnod yr eitem: 89-CS-0153).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Cadw bwyd

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Awyrlun o dref Cydweli, 1989Awyrlun o dref Cydweli, 1989Awyrlun o dref Cydweli, 1989Awyrlun o dref Cydweli, 1989Awyrlun o dref Cydweli, 1989

Pynciau perthnasol

    Dim

Erthyglau perthnasol

Nid oes gan yr eitem hon dudalennau