Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Ffurflen brint yn dangos nifer yr achosion o golera ym Merthyr Tudful, 22 Medi 1849
Mae colera yn salwch difrifol a achosir wrth i'r bacteria 'vibrio cholera' heintio'r coluddyn. Mewn achosion difrifol mae'r symptomau yn cynnwys dolur rhydd dyfrllyd helaeth, chwydu a chrampiau yn y goes. Yn yr achosion hyn bydd colli hylifau'r corff yn gyflym yn arwain at ddisychu a sioc. Yng nghanol y 19eg ganrif pan nad oedd triniaeth effeithiol ar gael gallai pobl farw o fewn oriau.
Dengys yr ystadegau hyn ddifrifoldeb yr haint yng Nghymru yn ystod Oes Victoria gan y bu farw ychydig yn llai na hanner y bobl a gafodd eu heintio - bu farw 1,520 o'r 3,612 o achosion mewn rhai misoedd yn unig. (Cofnodwyd yr achos cyntaf yma ar 25 Mai 1849 ym Merthyr, felly digwyddodd yr achosion hyn i gyd rhwng 25 Mai a 22 Medi).
Fel arfer, byddai pobl yn dal yr afiechyd drwy yfed dŵr heintiedig, a'r ardaloedd heb ddŵr yfed glân oedd fwyaf wrth risg.





