Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Poster rasys Nos Galan, Cwm Cynon, 1993

Poster rasys Nos Galan, Cwm Cynon, 1993 Mae rasys Nos Galan yn dathlu bywyd Griffith Morgan (Guto Nyth-brân, 1700-37) o Lanwynno; ei garreg fedd ef sydd ar y poster. Roedd Guto Nyth-brân yn adnabyddus am ei gyflymder fel rhedwr. Pan oedd yn 37 mlwydd oed fe dderbyniodd sialens i redeg 12 milltir o Gasnewydd i Gaerffili. Fe enillodd y ras yn hawdd, ond bu farw yn sydyn wrth y llinell derfyn wedi iddo gael ei daro ar ei gefn ar ddiwedd y ras gan un o'i gefnogwyr. Fe'i claddwyd ger Aberpennar. Cynhaliwyd y rasys Nos Galan cyntaf ym 1958 ac maent wedi tyfu o un ras wibio 100 llath a ras pedair milltir i gyfres o rasys gyda'r ras 5 cilomedr yn uchafbwynt. Mae personoliaeth chwaraeon enwog yn mynychu'r rasys bob blwyddyn, gan osod torch ar fedd Guto.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ01142

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa Cwm Cynon (Cyfeirnod yr eitem: ACVMS 1995.154).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Stormydd

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Poster rasys Nos Galan, Cwm Cynon, 1993Poster rasys Nos Galan, Cwm Cynon, 1993Poster rasys Nos Galan, Cwm Cynon, 1993Poster rasys Nos Galan, Cwm Cynon, 1993Poster rasys Nos Galan, Cwm Cynon, 1993Poster rasys Nos Galan, Cwm Cynon, 1993

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau