Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Seremoni dadorchuddio cofeb Evan a James James, cyfansoddwyr 'Hen Wlad Fy Nhadau', Pontypridd, 1930
Cynlluniwyd cofeb Evan a James James gan y cerflunydd Cymreig W. Goscombe John (1860-1952). Dadorchuddiwyd y gofeb ym Mharc Ynysangharad gan Arglwydd Treowen gerbron torf o 10,000 ym 1930.
Roedd Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-93) yn wehydd a gwerthwr gwlân wrth ei alwedigaeth a hefyd yn berchen tafarn yr Ancient Druid Inn yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy. Symudodd i Bontypridd pan oedd ei fab James (Iago ap Ieuan, 1833-1902) yn fachgen ifanc. Evan James a'i fab James a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru, 'Hen Wlad fy Nhadau' ym 1856. Roedd Evan yn barddoni a chredir mai ef a ysgrifennodd y geiriau ac mai ei fab James a gyfansoddodd yr alaw. Cyhoeddwyd y gân yn y gyfrol 'Gems of Welsh Melody' (1860) a daeth yn hynod boblogaidd ymron ar unwaith. Nid yw'n sicr pryd yn union y cafodd y gân ei mabwysiadu fel anthem genedlaethol Cymru.