Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Dadorchuddio plac yn coffáu'r fan lle y cyfansoddwyd 'Hen Wlad Fy Nhadau', Pontypridd, 1931
Dadorchuddiwyd y plac i goffáu'r fan lle cyfansoddwyd anthem genedlaethol Cymru gan Evan James a James James ar 17 Medi 1931. Cyfansoddwyd yr anthem ym 1856.
Roedd Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-93) yn wehydd a gwerthwr gwlân wrth ei alwedigaeth ac hefyd yn berchen tafarn yr Ancient Druid Inn yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy. Symudodd i Bontypridd pan oedd ei fab James (Iago ap Ieuan, 1833-1902) yn fachgen ifanc. Evan James a'i fab James a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru, 'Hen Wlad fy Nhadau' ym 1856. Roedd Evan yn barddoni a chredir mai ef a ysgrifennodd y geiriau ac mai ei fab James a gyfansoddodd yr alaw. Cyhoeddwyd y gân yn y gyfrol 'Gems of Welsh Melody' (1860) a daeth yn hynod boblogaidd ymron ar unwaith. Nid yw'n sicr pryd yn union y cafodd y gân ei mabwysiadu fel anthem genedlaethol Cymru. Dadorchuddiwyd cofeb, o waith W. Goscombe John, i gofio am Evan a James James ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, ym 1930.