Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Y gerdd 'Rhymney' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hun

Y gerdd 'Rhymney' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hun Ganed y bardd Idris Davies (1905-53) yn Rhymni, Sir Fynwy. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio i'r pwll glo lleol. Caewyd y lofa honno yn dilyn Streic Gyffredinol 1926 ac fe hyfforddodd Davies fel athro. Dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth ac fe gyhoeddwyd amryw o'i gerddi yn ystod y 1930au mewn gwahanol gyhoeddiadau. Yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, 'Gwalia Deserta' (1938), canolbwyntiodd Davies ar effaith y dirwasgiad ar gymunedau diwydiannol de Cymru. Yn ei ail gyfrol, 'The Angry Summer' (1943), ysgrifennodd un gerdd hir yn croniclo profiadau'r cymunedau diwydiannol rheini yn ystod Streic Gyffredinol 1926. Dychwelodd Davies i Gwm Rhymni i weithio fel athro ym 1947. Cyhoeddwyd ei gyfrol olaf o farddoniaeth, 'Selected Poems', yn fuan cyn ei farwolaeth.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ01714

Daw'r eitem hon o: Pencadlys Llyfrgelloedd Caerffili (Cyfeirnod yr eitem: Rhymney Library: Local Studies Collection - Llyfrgell Rhymni: Casgliad Astudiaethau Lleol).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Hapchwarae

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Y gerdd 'Rhymney' gan Idris Davies (1905-53), yn ei law ei hun

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau