Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Cap Mynwy, 16eg ganrif

Cap Mynwy, 16eg ganrif Roedd gwneuthurwyr capiau yn gweithio ym Mynwy mor gynnar â 1449, ond yn ystod Oes y Tuduriad gwelwyd y diwydiant yn ffynnu yn y dref. Mae'r cyfeiriad cynharaf at yr enw 'Cap Mynwy' i'w ganfod mewn llythyr sy'n dyddio o 1576. Erbyn y cyfnod hwn roedd y diwydiant ar ei anterth ym Mynwy, ond yn sgil deddfwriaeth newydd a oedd yn noddi'r diwydiant drwy gydol yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd nifer o drefi eraill hefyd wedi dechrau cynhyrchu capiau gwau. Roedd capiau Mynwy yn cael eu hystyried yn rhan hanfodol o wisg milwyr a morwyr yr ail ganrif ar bymtheg, er nad oeddynt bellach yn cael eu cynhyrchu ym Mynwy. Daeth capiau Mynwy mor gyfarwydd a chyffredin fel iddynt gael eu cymryd yn ganiataol. Roedd pawb yn gwybod yn union beth oedd 'cap Mynwy', a phrin felly yw'r disgrifiadau ysgrifenedig o'r cap. Ar sail y cyfeiriadau prin hynny, gwyddys bod y capiau wedi cael eu gwau a'u bod yn grwn, o liw brown, a gyda 'botwm' ar y corun. Credir bod yr het a ddangosir yma yn 'gap Mynwy' gwreiddiol, yr unig enghraifft sydd wedi goroesi, sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg. Ffynhonnell: Paneli arddangos, Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ01788

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa a Chanolfan Hanes Lleol Nelson (Cyfeirnod yr eitem: NM&LHC). Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, neu os oes gennych ymholiad yngl?n â copyright, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod.

Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau