Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
'Historical Tour of Monmouthshire' gan William Coxe, 1801
Yn ystod yr hydref 1788 aeth Syr Richard Colt Hoare, hynafiaethwr enwog o Wiltshire, i ymweld â'i ffrind, William Coxe yn Sir Fynwy. Aethant am daith o amgylch henebion y sir a chafodd William ei hudo gan:
'... the picturesque ruins of ancient castles memorable in the annals of history, and I was animated with the view of mansions distinguished by the residence of illustrious persons; objects which the sketches of my friend's pencil rended more impressive.'
Parhaodd ar ei deithiau ar ei ben ei hun ym 1799 gan deithio 1500 o filltiroedd mewn pum mis. Yn sgil hyn, lluniodd Coxe dwy gyfrol swmpus o'r enw 'Historical Tour of Monmouthshire'.