Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Ysgol Bedlinog, d.d.
Ym 1738 sefydlwyd ysgol gylchredol yn ardal Bedlinog ac ym 1847 mae Adroddiad Comisiynwyr Ysgolion yn disgrifio Ysgol Craig y Fargoed, a sefydlwyd ym 1836 yn y capel lleol gan y Parchedig Thomas Rees.
Agorwyd Ysgol Craig Bedlinog ym 1887 a'r ysgol a welir yn y ffotograff hwn yw ysgol y merched a agorwyd ym 1912 ac a ddaeth yn Ysgol Uwchradd Fodern Bedlinog ym 1949. Trosglwyddwyd y disgyblion i Ysgol Afon Taf ym 1974 a daeth yr adeiladau'n gartref i ysgol gynradd.
Ffynhonnell:
Llyfrgell Gyhoeddus Merthyr Tudful (1992) "Valley Lives, book 1: schools and scholars of the Merthyr Tydfil valley.

