Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Rhan o Frawdlys Aberhonddu 1880 wedi'i ailadeiladu

Rhan o Frawdlys Aberhonddu 1880 wedi'i ailadeiladu Fel tref sirol, roedd Aberhonddu yn gartref i'r Brawdlysoedd Sirol. Ym 1842 adeiladwyd Neuadd y Sir o faen Caerfaddon i fod yn gartref i'r Brawdlysoedd a'r Llysoedd Chwarter ac yn fan i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus. Pan fyddai Barnwr teithiol yr Uchel Lys yn cyrraedd Aberhonddu, byddai seremoni agor y Brawdlys yn un ffurfiol iawn gyda gorymdaith trwy'r strydoedd o lety'r Barnwr yn Strwet i gyfeiliant trwmpedwyr ac weithiau band. Diddymwyd y brawdlysoedd a'r Llysoedd Chwarter ym 1971 ac yn fuan wedyn penderfynwyd rhoi'r adeilad i'r Amgueddfa. Cadwyd Ystafell y Brawdlys i gofio am y dramâu cyfreithiol a ddigwyddodd yno yn y gorffennol ac erbyn 1998 yr oedd yr Amgueddfa wedi creu tablo bywiog yn yr hen Lys Barn a oedd yn cynnwys modelau o gymeriadau o'r 1880au.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ08256

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog (Cyfeirnod yr eitem: Casgliad Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog / Brecknock Museum & Art Gallery Collection).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Caneuon gwerin

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Rhan o Frawdlys Aberhonddu 1880 wedi'i ailadeiladuRhan o Frawdlys Aberhonddu 1880 wedi'i ailadeiladuRhan o Frawdlys Aberhonddu 1880 wedi'i ailadeiladuRhan o Frawdlys Aberhonddu 1880 wedi'i ailadeiladuRhan o Frawdlys Aberhonddu 1880 wedi'i ailadeiladuRhan o Frawdlys Aberhonddu 1880 wedi'i ailadeiladu

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau