Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Cadair Gludo o Ddinbych-y-pysgod

Cadair Gludo o Ddinbych-y-pysgod Roedd cadeiriau cludo yn boblogaidd yn Ninbych-y-Pysgod o'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Yn ystod y 19eg ganrif roedd masnachwr o'r enw Cadwallader, oedd a'i fusnes ar Frog Street, yn eu rhoi ar log. Byddai merched yn cael eu cludo ynddynt ar eu ffordd i ddawnsiau, partďon neu i gymdeithasu. Defnyddiwyd y gadair hon i gludo Miss Stokes, priodferch un o Feiri Dinbych-y-Pysgod, i'r eglwys yn Hwlffordd ar ddiwrnod ei phriodas ym 1872. Fe gyflwynwyd y gadair i Amgueddfa Dinbych-y-Pysgod ym mis Ebrill 1896 gan y teulu Richards, Croft House a fu'n chwarae rhan blaenllaw ym mywyd cyhoeddus y dref. [Ffynhonnell: Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-Pysgod]


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ08566

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-Pysgod (Cyfeirnod yr eitem: Tenby Musuem and Art Gallery).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Cofebion a cherrig coffa

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Cadair Gludo o Ddinbych-y-pysgodCadair Gludo o Ddinbych-y-pysgodCadair Gludo o Ddinbych-y-pysgodCadair Gludo o Ddinbych-y-pysgodCadair Gludo o Ddinbych-y-pysgodCadair Gludo o Ddinbych-y-pysgod

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau