Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Llyfr Achau'r Gelli Aur, cyfrol 2, clawr [delwedd 1 o 608]

Llyfr Achau'r Gelli Aur, cyfrol 2, clawr [delwedd 1 o 608] Hon yw'r ail o bedair cyfrol sy'n ffurfio llyfr achau'r Gelli Aur. Fe'i cwblhawyd tua'r flwyddyn 1765 ac mae'n gopi, ac yn barhad, o lyfrau achau a luniwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae'r Cymry wedi magu diddordeb dwfn mewn hel achau a herodraeth ers canrifoedd, a cheir prawf o hyn mewn llawysgrifau sy'n dyddio yn ôl mor bell â'r canol oesoedd. Er bod amheuaeth ynglŷn â chywirdeb peth o'r wybodaeth a geir ynddynt, mae'n sicr fod achau fel Gelli Aur yn taflu goleuni pwysig ar sawl agwedd ar fywyd yng Nghymru gan gynnwys datganoli tir a sefydlogrwydd y boblogaeth. Y cofnodion mwyaf diweddar, yn aml, yw'r mwyaf dibynadwy, a gallant fod o gymorth wrth geisio llenwi bylchau mewn cofrestri plwyf a dogfennau lleol eraill. Mae rhan gyntaf y gyfrol hon, a elwir yn D, yn cynnwys achau chwe unigolyn pwysig - Brychan Brycheiniog, Llewelyn ap Gwrgant, Dug Normandi, Ideo Wyllt, Gwynfardd Dyfed a Cadifor Fawr. Mae'r ail ran, a elwir yn G, yn cynnwys achau teuluoedd o siroedd Morgannwg, Brycheiniog, Mynwy, Maesyfed, Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro. Mae'r drydedd rhan, a elwir yn I, yn cynnwys achau teuluoedd o siroedd Dinbych, Caernarfon, Môn, a Meirionnydd. Yn ôl yr hynafiaethydd, Francis Jones, mae llyfr achau'r Gelli Aur yn gopi ffyddlon o lyfrau William Lewes o Lwynderw. Roedd yn gasglwr achau brwd a seliodd ei waith ar lawer o'r llawysgrifau pwysicaf. Ymestynnodd copïwr llyfr achau'r Gelli Aur ar nifer o'r siartiau achau a oedd yn rhan o'r llawysgrifau cynharach, gan ddod â rhai ohonynt lawr mor bell â 1765, sef tua'r un adeg a luniwyd copi'r Gelli Aur. Nid yw enw copïwr llyfr achau'r Gelli Aur yn hysbys er bod y llythrennau 'E. E.', sy'n ymddangos ar dudalen gyntaf y gyfrol gyntaf, wedi arwain rhai haneswyr i ddyfalu enw'r awdur. Nid ydym yn gwybod ychwaith, pam y lluniwyd llyfr achau'r Gelli Aur, er bod rhai wedi dadlau bod y cyfan wedi'i gopïo ar gais John Vaughan o'r Gelli Aur, sir Gaerfyrddin. Fe wnaeth cyfrolau'r Gelli Aur ennyn cryn ddiddordeb ymysg haneswyr y cyfnod ac fe'u defnyddiwyd gan Theopilus Jones wrth iddo lunio ei hanes o sir Frycheiniog. Mae'r cyfrolau yn cynnwys ychwanegiadau yn ei law. Daeth y cyfrolau, ymhen hir a hwyr, i law Iarll Cawdor o'r Gelli Aur, a'u rhoddodd ar adnau yn yr Archifdy Gwladol ym 1870. Yn fwy diweddar, fe'u dychwelwyd i sir Gaerfyrddin ac maent yn awr wedi eu lleoli yn Archifdy'r Sir. Ffynhonnell: Major Francis Jones, 'An Approach to Welsh Genealogy', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1948), 303-466.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ08664

Daw'r eitem hon o: Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin (Cyfeirnod yr eitem: Archif Cawdor Archive).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Ysbytai cyffredinol

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Llyfr Achau'r Gelli Aur, cyfrol 2, clawr [delwedd 1 o 608]Llyfr Achau'r Gelli Aur, cyfrol 2, clawr [delwedd 1 o 608]Llyfr Achau'r Gelli Aur, cyfrol 2, clawr [delwedd 1 o 608]Llyfr Achau'r Gelli Aur, cyfrol 2, clawr [delwedd 1 o 608]Llyfr Achau'r Gelli Aur, cyfrol 2, clawr [delwedd 1 o 608]Llyfr Achau'r Gelli Aur, cyfrol 2, clawr [delwedd 1 o 608]

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Mae gan yr eitem hon ragor o dudalennau
  Nesaf