Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Llyfr Aneirin, c. 1265, clawr [delwedd 1 o 44]
Mae Llyfr Aneirin yn dyddio o tua 1265 ac mae'n cynnwys cyfres o awdlau byrion a briodolir i'r Cynfardd Aneirin a oedd yn ei flodau yn ystod ail hanner y chweched ganrif.
Mae'r cerddi yn coffáu arwriaeth llwyth y Gododdin a'u cynghreiriaid a laddwyd mewn ymosodiad trychinebus ar safle strategol Catraeth, swydd Efrog tua'r flwyddyn 600.
Dengys yr iaith, y mydr a thechneg y gerdd ei bod yn dilyn traddodiad hir o ganu mawl yn yr iaith Frythoneg, sef ffurf arbennig o'r Hen Gymraeg a siaredid yn Cumbria ac yn ardaloedd deheuol yr Alban.
Cytunir yn gyffredinol i'r Gododdin gael ei throsglwyddo ar lafar yn unig dros gyfnod hir cyn iddi gael ei hysgrifennu ar femrwn am y tro cyntaf.
Tynnwyd y lluniau hyn o'r llawysgrif cyn i'r gyfrol gael ei hatgyweirio a'i hail-rwymo.
Cyhoeddwyd golygiad o'r Gododdin, gyda thrafodaeth ragarweiniol, gan Ifor Williams 'Canu Aneirin' (1938).
Ffynhonnell:
Meic Stephens (gol.), 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' (Caerdydd, 1992)