Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Rhaglen Premier Gymreig y ffilm 'Zulu', clawr, 23 Mawrth 1964
Mae'r ffilm 'Zulu' yn adrodd hanes digwyddiadau arwyddocaol yn hanes milwrol Cymru - sef amddiffyniad Rorke's Drift ar 22 a 23 Ionawr 1879. Dyfarnwyd un ar ddeg o Groesau Victoria, saith i Filwyr Traed Rhif 24, Cyffinwyr De Cymru yn ddiweddarach. Cyd-gynhyrchwyd y ffilm gan Stanley Baker a Cy Endfield. Yng Nghymru y dangoswyd y ffilm gyntaf a hynny yn Sinema Olympia, Caerdydd. Chwaraewyd rhan yr Is-gapten John Chard VC gan (Syr) Stanley Baker o Gwm Rhondda, a (Syr) Michael Caine oedd yn chwarae rhan yr Is-gapten Gonville Bromhead VC.