Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
'Rorke's House', 1879
Roedd y frwydr i amddiffyn Rorke's Drift ar 22/23 Ionawr 1879 yn ddigwyddiad arwyddocaol yn hanes milwrol Cymru. Llwyddodd 140 o filwyr Prydeinig, a oedd wedi eu lleoli mewn gorsaf fasnachu fechan wrth y fan lle mae Afon Buffalo yn croesi i Wlad y Zwlw, i gadw 4500 o ryfelwyr Zwlŵiadd draw am dros 12 awr. Cyflwynwyd 11 o Groesau Victoria i'r milwyr Prydeinig, 7 i filwyr traed Rhif 24, yn ddiweddarach Cyffinwyr De Cymru. Tynnwyd y ffotograff hwn yn fuan wedi'r ymladd gan Lloyd o Pietermaritzburg.





