Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Gafr Catrawd Brenhinol Cymru
Bu farw Taffy III, gafr Catrawd Brenhinol Cymru ar 7 Mehefin 1993. Mae Catrawd Brenhinol Cymru yn un o ddwy gatrawd Brydeinig sydd wedi mabwysiadu gafr fel masgot. Mabwysiadwyd yr afr gyntaf ar adeg Rhyfel y Crimea (1854-6). Er mai 'Taffy' yw enw cyffredin yr afr, ei enw swyddogol yw 'Gwilym Jenkins'. Enw'r milwr sy'n gofalu am yr afr yw Uwch-gapten yr Afr.

