Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

T. Llew Jones yn ennill cadair Eisteddfod siop Lewis's, Lerpwl, 9 Mehefin 1950

T. Llew Jones yn ennill cadair Eisteddfod siop Lewis's, Lerpwl, 9 Mehefin 1950 Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Ganed y bardd a'r awdur T. Llew Jones (1915-) ym Mhentre-cwrt, ger Llandysul. Bu'n gweithio fel athro cyn troi i ysgrifennu yn amser-llawn. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1958 a 1959. Mae wedi ysgrifennu dros 50 o gyfrolau, ac yn fwyaf adnabyddus fel awdur llyfrau plant, yn farddoniaeth a rhyddiaith. Mae nifer o'i nofelau mwyaf poblogaidd yn seiliedig ar gymeriadau a digwyddiadau hanesyddol ac mae'r rhain yn cynnwys 'Corn, Pistol a Chwip' (1969), 'Barti Ddu' (1973), 'Un Noson Dywyll' (1973), 'Tân ar y Comin' (1975) a 'Lleuad yn Olau' (1989).


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ11571

Daw'r eitem hon o: Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Cyfeirnod yr eitem: GCH00614).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Jones, S. Maurice (1853-1932)

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
T. Llew Jones yn ennill cadair Eisteddfod siop Lewis's, Lerpwl, 9 Mehefin 1950T. Llew Jones yn ennill cadair Eisteddfod siop Lewis's, Lerpwl, 9 Mehefin 1950T. Llew Jones yn ennill cadair Eisteddfod siop Lewis's, Lerpwl, 9 Mehefin 1950

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau