Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
'Sioni Winwns' yn clymu winwns ar linyn ym Mhorthmadog, 20 Chwefror 1958
Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.
'Sioni Winwns' oedd y llysenw a roddid i'r gwerthwyr winwns neu nionod a fyddai'n teithio bob blwyddyn o Lydaw i Gymru a rhannau eraill o Brydain. Glaniodd y 'Sioni Winwns' cyntaf yn Plymouth ym 1828 ac roeddynt yn parhau'n olygfa gyffredin mewn sawl tref a phentref yng Nghymru hyd at y 1970au.


