Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Seremoni agor Capel Pen-rhiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, 21 Mehefin 1956

Seremoni agor Capel Pen-rhiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, 21 Mehefin 1956 Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Roedd Capel Pen-rhiw yn sefyll yn wreiddiol yn Nhre-fach, Felindre, Sir Gaerfyrddin, ond cafodd ei ail-godi ar safle Amgueddfa Werin Cymru ym 1956. Roedd Capel Pen-rhiw yn eiddo i enwad yr Undodwyr, ac fe'i agorwyd ym 1777. Mae'r adeilad syml a diaddurn hwn yn nodweddiadol o gapeli Anghydffurfiol cynnar Cymru, lle adeiladwyd y mynediad ar hyd un o'r waliau hir. Roedd y capeli a adeiladwyd yn ddiweddarach o gynllun llawer mwy crand gyda'r drysau wedi eu gosod yn y waliau talcen addurnedig. Yn achos Capel Pen-rhiw, credir i adeilad cynharach, ysgubor o bosibl, gael ei addasu ym 1777 at ddefnydd yr Undodwyr. Mae Undodiaeth yn cael ei ystyried yn enwad goddefol â chanddo hanes hir a diddorol yng Nghymru. Roedd llofft yn y capel gwreiddiol ond cafodd hwn ei dynnu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn codi'r oriel presennol gan ychwanegu at nifer y seddau. Mae'r corau (seddau) ar y llawr isaf oll ychydig yn wahanol i'w gilydd, ac mae hyn yn dangos iddynt gael eu hadeiladu ar gyfer y teuluoedd a oedd yn gyfrifol amdanynt. Arferai diaconiaid y capel eistedd mewn côr ar un ochr i'r pulpud uchel, a godwyd pan adeiladwyd yr oriel. Llawr pridd sydd i'r capel hwn, ac eithrio gerllaw'r bwrdd cymun lle gosodwyd pren ar y llawr. Roedd y seddau cerrig, sydd i'w gweld y tu allan i'r capel, yn cael eu defnyddio yn ystod gwyliau pregethu. Mae addysg yn bwysig iawn i'r Undodwyr a bu'r capel yn gartref i ysgol elfennol ac ysgol ramadeg yn ystod ei oes. Mae gwasanaethau crefyddol yn parhau i gael eu cynnal yn gyson yn yr adeilad cysegredig hwn. Disgrifiad gan Amgueddfa Werin Cymru.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ12042

Daw'r eitem hon o: Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Cyfeirnod yr eitem: GCH09774).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Llyfrgell Pontypridd

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Seremoni agor Capel Pen-rhiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, 21 Mehefin 1956Seremoni agor Capel Pen-rhiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, 21 Mehefin 1956Seremoni agor Capel Pen-rhiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, 21 Mehefin 1956Seremoni agor Capel Pen-rhiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, 21 Mehefin 1956Seremoni agor Capel Pen-rhiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, 21 Mehefin 1956Seremoni agor Capel Pen-rhiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, 21 Mehefin 1956

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau