Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Soar-y-mynydd, y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, 8 Medi 1955

Soar-y-mynydd, y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, 8 Medi 1955 Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Efallai mai Soar-y-mynydd (capel sy'n perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd), yw'r capel mwyaf anghysbell yng Nghymru. Mae'r capel wedi ei leoli ar lan Afon Camddwr ar y ffordd o Dregaron i Lyn Brianne. Adeiladwyd y capel yn y 1820au gan Ebenezer Richards - gweinidog yn Nhregaron ar y pryd a thad yr enwog Henry Richard (1812-88) - a'i ymddiriedolwyr. Cynllun traddodiadol sydd i'r capel deulawr hwn gydag un mur llydan a phulpud wedi ei leoli rhwng y ddau ddrws ar y mur hwnnw. Roedd yr adeilad hefyd yn gartref i'r ysgol leol hyd y 1940au.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ12139

Daw'r eitem hon o: Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Cyfeirnod yr eitem: GCH12919).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Frost, John (1784-1877)

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Soar-y-mynydd, y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, 8 Medi 1955Soar-y-mynydd, y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, 8 Medi 1955Soar-y-mynydd, y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, 8 Medi 1955Soar-y-mynydd, y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, 8 Medi 1955Soar-y-mynydd, y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, 8 Medi 1955

Pynciau perthnasol

    Dim

Erthyglau perthnasol

Nid oes gan yr eitem hon dudalennau