Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Pantycelyn, cartref yr emynydd William Williams, 1 Mehefin 1953
Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Ganed 'Williams Pantycelyn' yng Nghefn-coed, ger Llanymddyfri ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn Academi Llwyn-llwyd a'i fwriad oedd mynd yn feddyg. Fodd bynnag, ar ôl iddo glywed Howell Harris (1714-1773) yn pregethu yn Nhalgarth, cafodd Williams droedigaeth. Ymunodd â'r Eglwys a chafodd ei ordeinio'n ddiacon ym 1740. Yn ystod y blynyddoedd dilynol, trôdd ei sylw fwyfwy at y mudiad Methodistaidd a chyn hir, ef oedd un o arweinwyr mwyaf blaenllaw'r mudiad yng Nghymru. Ar ôl iddo briodi ym 1748 aeth i fyw i hen gartref ei fam, Pantycelyn, yn ei blwyf enedigol. Ystyrir Williams yn un o emynwyr pwysicaf a mwyaf poblogaidd Cymru; yn wir, cymaint oedd ei gyfraniad ym maes emynyddiaeth fel iddo gael ei anrhydeddu gyda'r teitl 'Y Pêr Ganiedydd'. Cyfansoddodd dros 800 o emynau ac mae nifer fawr ohonynt yn dal i gael eu canu heddiw. Roedd hefyd yn fardd a chyhoeddodd sawl darn o ryddiaith yn ogystal. Bu farw ym 1791 a chafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Llanfair-ar-y-bryn, ger Llanymddyfri.





