Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

'Hanes bywyd Thomas Edwards, bardd, gynt o'r Nant, gerllaw Nantglyn, Swydd Dinbych', cyhoeddwyd 1849 [delwedd 1 o 16]

'Hanes bywyd Thomas Edwards, bardd, gynt o'r Nant, gerllaw Nantglyn, Swydd Dinbych', cyhoeddwyd 1849 [delwedd 1 o 16] Ganed Thomas Edwards neu 'Twm o'r Nant' (1739-1810) yn Llanefydd, Sir Ddinbych, ac mae'n fwyaf adnabyddus fel anterliwtiwr. Ysgrifennodd ei hunangofiant ym 1806 pan oedd yn 67 mlwydd oed ac ynddo mae'n dweud iddo ddechrau ysgrifennu cerddi ac anterliwtiau cyn ei fod yn 9 oed a'i fod yn chwarae mewn anterliwitau pan oedd ond yn 12 mlwydd oed. Cyhoeddwyd yr argraffiad hwn o'i huangofiant ym 1849 ynghyd â'i holl weithiau eraill o dan y teitl 'Gwaith Thomas Edwards o'r Nant; yn nghyd a hanes ei fywyd'.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ12622

Daw'r eitem hon o: Llyfrgell Gyhoeddus Caerfyrddin (Cyfeirnod yr eitem: ).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Mae gan yr eitem hon ragor o dudalennau