Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Y bardd John Ceiriog Hughes (1832-87)
Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas, 1867.
Ganed J. Ceiriog Hughes (1832-87) yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Sir Ddinbych. Treuliodd gyfnod ym Manceinion a bu'n gweithio fel clerc ar y rheilffordd yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru ym 1868 pan gafodd ei benodi yn orsaf-feistr yng Nghaersŵs. Roedd Ceiriog wedi dechrau barddoni ers rhai blynyddoedd ond ni chyhoeddwyd ei waith hyd 1860 pan ymddangosodd y gyfrol 'Oriau'r Hwyr'. Dilynwyd hon gan sawl cyfrol arall, gan gynnwys 'Oriau'r Bore' (1862) a 'Cant o Ganeuon' (1863) - cyfrolau sy'n cynnwys ei waith mwyaf poblogaidd. Mae'n debyg mai ei ganeuon telynegol oedd ei weithiau mwyaf poblogaidd ac mae rhai, fel 'Nant y Mynydd' ac 'Alun Mabon', yn parhau i gael eu canu a'u hadrodd ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau hyd heddiw.





