Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Amcangyfrif o'r gost o godi tŷ newydd ar Fferm Bodenlli, Ceirchiog, Sir Fôn, 29 Medi 1809.

Amcangyfrif o'r gost o godi tŷ newydd ar Fferm Bodenlli, Ceirchiog, Sir Fôn, 29 Medi 1809. Lluniwyd yr amcangyfrif hwn o gost adeiladu tŷ newydd yn Fferm Bodhenlli ym mhlwyf Ceirchiog, Sir Fôn, gan Robert Williams ar 20 Medi 1809. Ar y pryd, roedd y tir ym mherchnogaeth ffeodedigion neu ymddiriedolwyr Elusen David Hughes. Sefydlwyd yr elusen gan David Hughes, sylfaenydd Yr Ysgol Ramadeg Rad ym Miwmares ym 1603. Wedi sefydlu'r ysgol, prynodd David Hughes nifer o ffermydd yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon er mwyn darparu gwaddol parhaol i'w elusen. Prynwyd tir ychwanegol gan y ffeodedigion yn ddiweddarach ac roedd nifer o'r ffermydd hyn yn parhau ym mherchnogaeth yr elusen pan drosglwyddwyd yr ysgol i ofal y sir ym 1895.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ15244

Daw'r eitem hon o: Archifdy Ynys Môn (Cyfeirnod yr eitem: QSA/CHA (Bocs 11 / Box 11)).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Archifdy Sir Benfro

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Amcangyfrif o'r gost o godi tŷ newydd ar Fferm Bodenlli, Ceirchiog, Sir Fôn, 29 Medi 1809.Amcangyfrif o'r gost o godi tŷ newydd ar Fferm Bodenlli, Ceirchiog, Sir Fôn, 29 Medi 1809.Amcangyfrif o'r gost o godi tŷ newydd ar Fferm Bodenlli, Ceirchiog, Sir Fôn, 29 Medi 1809.Amcangyfrif o'r gost o godi tŷ newydd ar Fferm Bodenlli, Ceirchiog, Sir Fôn, 29 Medi 1809.Amcangyfrif o'r gost o godi tŷ newydd ar Fferm Bodenlli, Ceirchiog, Sir Fôn, 29 Medi 1809.Amcangyfrif o'r gost o godi tŷ newydd ar Fferm Bodenlli, Ceirchiog, Sir Fôn, 29 Medi 1809.

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau