Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Llythyr oddi wrth Charles de Gaulle at y Parch. John Peter, 15 Rhagfyr 1871 [delwedd 1 o 3]
Awdur y llythyr hwn yw Charles de Gaulle, ewythr yr enwog Charles de Gaulle, Arlywydd Ffrainc. Anfonwyd y llythyr at y Parchedig John Peter (Ioan Pedr), a oedd yn cydweithio gyda'r Parch Michael D. Jones yng Ngholeg Annibynnol y Bala. Roedd de Gaulle yn ysgolhaig Celtaidd o fri ac yn y llythyr hwn, mae'n sôn am y gwahanol erthyglau a'r llyfrau y mae wedi eu cyhoeddi. Dywed wrth Ioan Pedr ei fod wedi anfon copi o un o'i lyfrau ato a bydd yn anfon mwy o ysgrifau ato cyn bo hir. Nid yw'n credu fod ei waith o unrhyw werth gwirioneddol, ond mae'n eu hanfon at Ioan Pedr fel arwydd o barch a diolchgarwch.
![Llythyr oddi wrth Charles de Gaulle at y Parch. John Peter, 15 Rhagfyr 1871 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ70213.jpg)
![Llythyr oddi wrth Charles de Gaulle at y Parch. John Peter, 15 Rhagfyr 1871 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ70215.jpg)
![Llythyr oddi wrth Charles de Gaulle at y Parch. John Peter, 15 Rhagfyr 1871 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ70217.jpg)
![Llythyr oddi wrth Charles de Gaulle at y Parch. John Peter, 15 Rhagfyr 1871 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ70219.jpg)
![Llythyr oddi wrth Charles de Gaulle at y Parch. John Peter, 15 Rhagfyr 1871 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ70221.jpg)
![Llythyr oddi wrth Charles de Gaulle at y Parch. John Peter, 15 Rhagfyr 1871 [delwedd 1 o 3]](uploads/pics/GTJ70223.jpg)