Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Rhybudd i'r 'Eneth Ieuanc Ddi-amddiffyn' gan Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, tua 1920au
Cafodd y rhybudd hwn ei gyhoeddi gan Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, tua 1920au. Ar y pryd hwnnw, roedd nifer fawr o ferched ifainc yn gadael Cymru i weithio fel morwynion yn nhrefi a dinasoedd poblog Lloegr. Gan fod gwaith ac arian yn brin mewn sawl ardal, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol, nid oedd gan y merched ifainc hyn fawr o ddewis ond gadael eu cartrefi i chwilio am waith. Roedd mudiadau fel Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru yn awyddus i sicrhau bod y merched hyn yn dod o hyd i swyddi addas cyn iddynt ddechrau ar eu taith o Gymru. Roedd nifer o straeon wedi ymddangos yn y wasg a oedd yn awgrymu bod rhai merched o Gymru yn gadael eu cartrefi heb unrhyw sicrwydd bod swydd yn aros amdanynt ar ben eu taith. O ganlyniad, byddent yn cymryd swyddi gyda chyflogwyr 'anaddas' neu'n mynd i drafferth gyda'r heddlu a'r awdurdodau gan nad oedd ganddynt waith na llety. Ar ddiwedd y rhybudd, nodir cyfeiriadau nifer o unigolion yn Llundain, Lerpwl, Manceinion, Birmingham a de Cymru, ac fe gynghorir pob merch i gysylltu â hwy cyn derbyn swydd yn y trefi hyn.





