Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Taflen a chân ynghylch y 'cload allan' yn Chwarel Dinorwig, 1885-6 [delwedd 1 o 4]

Taflen a chân ynghylch y 'cload allan' yn Chwarel Dinorwig, 1885-6 [delwedd 1 o 4] Taflen a chân ynghylch yr anghydfod yn Chwareli Dinorwig, Llanberis, a ddechreuodd ym mis Hydref 1885. Yn ystod y misoedd blaenorol, roedd perthynas y chwarelwyr â'r rheolwyr wedi dirywio'n enbyd: roedd cryn anfodlonrwydd ynghylch yr amodau gwaith a cheid honiadau bod y rheolwyr yn gweithredu'n annheg ac yn dangos ffafriaeth at rai gweithwyr. Fe aeth pethau i'r pen ar 23 Hydref, ddeng niwrnod ar ôl i'r chwarelwyr gynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod eu cwynion, pan dderbyniwyd neges gan y rheolwyr yn gorchymyn pob chwarelwr a fu yn y cyfarfod hwnnw i adael ei waith ar unwaith. Fel y dengys y daflen hon, bu'r cyfnod hwn yn un anodd iawn i'r 2,700 o chwarelwyr a'u teuluoedd. Parhaodd yr anghydfod am bum mis tan 1 Mawrth 1886, pan ildiodd y chwarelwyr i ofynion y rheolwyr a dychwelyd i'r gwaith.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ15861

Daw'r eitem hon o: Archifdy Caernarfo (Cyfeirnod yr eitem: XM/1838/8).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Llwyau caru

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Taflen a chân ynghylch y 'cload allan' yn Chwarel Dinorwig, 1885-6 [delwedd 1 o 4]Taflen a chân ynghylch y 'cload allan' yn Chwarel Dinorwig, 1885-6 [delwedd 1 o 4]Taflen a chân ynghylch y 'cload allan' yn Chwarel Dinorwig, 1885-6 [delwedd 1 o 4]Taflen a chân ynghylch y 'cload allan' yn Chwarel Dinorwig, 1885-6 [delwedd 1 o 4]Taflen a chân ynghylch y 'cload allan' yn Chwarel Dinorwig, 1885-6 [delwedd 1 o 4]Taflen a chân ynghylch y 'cload allan' yn Chwarel Dinorwig, 1885-6 [delwedd 1 o 4]

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Mae gan yr eitem hon ragor o dudalennau
  Nesaf