Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Llyfr toriadau papur newydd - yn cynnwys adroddiadau am y brotest gyhoeddus yn Llanddwyn, Sir Fôn, 1938 [t. 25, delwedd 1 o 21]
Mae'r adroddiadau canlynol o wahanol bapurau newydd yn cyfeirio at anghydfod yn Llanddwyn, Sir Fôn, ym 1938 ynglŷn â hawl honedig y cyhoedd i gael mynediad i Ynys Llanddwyn. Roedd yr anghydfod yn deillio o benderfyniad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (yr RSPB) i rwystro aelodau o'r cyhoedd rhag cael mynediad i'r tir ar yr ynys. Ar yr un pryd, roedd trafodaethau yn cael eu cynnal i'r posibilrwydd o adeiladu ffordd fynediad newydd at yr Ynys o Niwbwrch er mwyn rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth.
Fel y dengys yr adroddiadau papur newydd, roedd gweithredoedd yr RSPB wedi codi gwrychyn y trigolion lleol ac fe aethant ati i drefnu gwrthdystiad anferth ar {yl y Banc ym mis Awst. Daeth dros fil o bobl ynghyd ar gyfer yr orymdaith bedair milltir o hyd ar draws y twyni tywod o Niwbwrch i Ynys Llanddwyn.
Ar y dudalen hon gwelir llythyr oddi wrth Margaret Evans, Hillingdon, Middlesex, dan y pennawd 'The Future of Llanddwyn' a gyhoeddwyd yn y 'North Wales Chronicle', 20 Mai 1938.
![Llyfr toriadau papur newydd - yn cynnwys adroddiadau am y brotest gyhoeddus yn Llanddwyn, Sir Fôn, 1938 [t. 25, delwedd 1 o 21]](uploads/pics/GTJ00137.jpg)
![Llyfr toriadau papur newydd - yn cynnwys adroddiadau am y brotest gyhoeddus yn Llanddwyn, Sir Fôn, 1938 [t. 25, delwedd 1 o 21]](uploads/pics/GTJ28580.jpg)
![Llyfr toriadau papur newydd - yn cynnwys adroddiadau am y brotest gyhoeddus yn Llanddwyn, Sir Fôn, 1938 [t. 25, delwedd 1 o 21]](uploads/pics/GTJ28598.jpg)
![Llyfr toriadau papur newydd - yn cynnwys adroddiadau am y brotest gyhoeddus yn Llanddwyn, Sir Fôn, 1938 [t. 25, delwedd 1 o 21]](uploads/pics/GTJ28664.jpg)
![Llyfr toriadau papur newydd - yn cynnwys adroddiadau am y brotest gyhoeddus yn Llanddwyn, Sir Fôn, 1938 [t. 25, delwedd 1 o 21]](uploads/pics/GTJ28683.jpg)
![Llyfr toriadau papur newydd - yn cynnwys adroddiadau am y brotest gyhoeddus yn Llanddwyn, Sir Fôn, 1938 [t. 25, delwedd 1 o 21]](uploads/pics/GTJ28674.jpg)