Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Cofgolofn y Parchedig Thomas Charles (1755-1814), Y Bala
Cafodd y cerflun hwn o'r Parchedig Thomas Charles (1755-1814) ei gerfio gan William Davies (Mynorydd) a'i ddadorchuddio ym 1872 y tu allan i gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref y Bala, lle'r ymsefydlodd Charles ym 1783. Thomas Charles oedd un o arweinwyr mwyaf blaenllaw y Methodistiaid yng Nghymru. Sefydlodd nifer o ysgolion Sul cylchynol a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sefydlu'r Gymdeithas Feiblau ym 1804. Ef oedd yn gyfrifol am olygu Beibl Cymraeg cyntaf y Gymdeithas honno ac erbyn ei farwolaeth ym 1814, amcangyfrifir iddo gyhoeddi a dosbarthu tua 320,000 o lyfrau ymhlith ei gyd-Gymry.
Parhau i bori trwy Gweithfeydd haearn a dur East Moors, Caerdydd





