Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Edward Lloyd, Tŷ Brics, saneuwr olaf tref Y Bala, tua'r flwyddyn 1880
Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, roedd y diwydiant gwau hosanau yn nodwedd bwysig o'r economi wledig mewn sawl rhan o Gymru. Roedd nifer o deuluoedd yr ardaloedd gwledig yn gwbl ddibynnol ar y diwydiant hwn er mwyn ennill bywoliaeth yn ystod cyfnodau llwm. Ystyrid tref y Bala yn ganolfan y diwydiant gwau hosanau yn ystod y cyfnod hwn gan fod cynifer o ddynion, merched a phlant y dref yn saneuwyr profiadol a chrefftus. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, fodd bynnag, roedd y diwydiant cartref hwn wedi edwinio wrth i hosanau gael eu cynhyrchu fwyfwy ar beiriannau. Cafodd y ffotograff hwn o Edward Lloyd, Tŷ Brics, saneuwr olaf tref y Bala, ei dynnu yn ystod yr 1880au.