Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Cofgolofn yr Athro A. W. Hughes (1861-1900), Corris

Cofgolofn yr Athro A. W. Hughes (1861-1900), Corris Ganed Alfred William Hughes (1861-1900), athro a llawfeddyg, yn Aberllefenni, ger Corris, yn fab i oruchwyliwr chwarel. Ar ôl gadael yr ysgol, prentisiwyd ef yn ddilledydd yn Nolgellau ond dychwelodd i chwarel Aberllefenni yn glerc. Dechreuodd ar ei yrfa feddygol gyda meddyg lleol ac fe aeth i Brifysgol Caeredin pan oedd yn 18 oed. Graddiodd ym 1885 ac ym 1889 gwnaed ef yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon (FRCS). Ar ôl cyfnod byr yn Sir y Fflint, dychwelodd i Gaeredin lle cafodd ei benodi'n Athro yn y coleg meddygol. Ym 1893 cafodd ei benodi'n Athro yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ac yna ym 1897 aeth yn Athro i King's College, Llundain. Ymgeisiodd dros y Ceidwadwyr yn etholaeth Sir Gaernarfon ym 1895. Yn ystod Rhyfel y Boer sefydlodd ysbyty Cymreig yn Ne Affrica a threuliodd amser yno'n arolygu'r gwaith. Fodd bynnag, cafodd ei daro gan afiechyd ar ei ffordd adref a bu farw yn ei gartref yn Llundain ym 1900. Cafodd ei gladdu ym mynwent Corris.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ16913

Daw'r eitem hon o: Llyfrgell Dolgella (Cyfeirnod yr eitem: D 040 Casgliad Sleidiau / Slide Collection).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Adar

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
Cofgolofn yr Athro A. W. Hughes (1861-1900), CorrisCofgolofn yr Athro A. W. Hughes (1861-1900), CorrisCofgolofn yr Athro A. W. Hughes (1861-1900), CorrisCofgolofn yr Athro A. W. Hughes (1861-1900), CorrisCofgolofn yr Athro A. W. Hughes (1861-1900), CorrisCofgolofn yr Athro A. W. Hughes (1861-1900), Corris

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau