Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Cofeb Mari Jones, Llanfihangel-y-Pennant, Sir Feirionnydd
Codwyd y gofeb hon ym 1921 gan Ysgolion Sul Meirionnydd. Mae'r arysgrif ar y gofeb yn darllen fel a ganlyn:
'Er cof am Mari Jones, yr hon yn y flwyddyn 1800, pan yn 16 oed a gerddodd o'r lle hwn i'r Bala, i ymofyn Beibl gan y Parch Thomas Charles, B.A., yr amgylchiad hwn fu yn achlysur sefydliad y Gymdeithas Feiblaidd Frutanaidd a Thramor'.