Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Portread dyfrlliw o 'Will Boots' (1805-61) - un o dywysyddion cyntaf yr Wyddfa
Portread dyfrlliw bychan o William Williams (1805-61) neu 'Will Boots' fel y'i gelwid yn lleol. Ganed Will Boots yn Rhuthun ym 1805 ond symudodd i Lanberis yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg lle daeth yn adnabyddus fel tywysydd ar yr Wyddfa. Yn ôl yr hanes, byddai weithiau'n dringo i'r copa hyd at deirgwaith mewn un diwrnod, tra byddai'r ymwelwyr yn teithio i ben y mynydd ar gefn ceffylau. Yn ogystal â chynnig y gwasanaethau arferol a ddisgwylid gan dywysydd mynydd, roedd Will Boots yn fotanegydd brwdfrydig ac yn gasglwr planhigion prin, yn enwedig rhedyn. Ym 1861, fodd bynnag, ac yntau wedi mynd ar drywydd rhedyn alpaidd ar yr Wyddfa, syrthiodd ar y clogwyni a bu farw.
Ffynhonnell: Dewi Jones, 'Tywysyddion Eryri' (Llanrwst, 1993)





