Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
'John Wilkinson (1728-1808)' gan Lemuel Francis Abbot (olew)
Peintiwyd y portread olew hwn o'r meistr haearn John Wilkinson (1728-1808) gan Lemuel Francis Abbot (1760-1803).
Roedd John Wilkinson yn enedigol o Cumberland ond chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad y diwydiant haearn a'r diwydiannau cysylltiedig yn ardal Wrecsam ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Ym 1763, sefydlodd y 'New Bersham Company' gyda'i frawd William wedi iddynt etifeddu'r gwaith haearn gan eu tad, Isaac Wilkinson. Roedd gwaith Bersham ar flaen y gad ym maes technoleg haearn ac yn ddiweddarach cydweithiodd Wilkinson gyda James Watt i gynhyrchu peiriannau stêm. Datblygodd Wilkinson safleoedd diwydiannol eraill gan gynnwys Gweithfeydd Plwm Mwynglawdd lle adeiladodd bwll tawdd. Ym 1792 prynodd Ystad Brymbo gan sefydlu gwaith haearn newydd ar y safle.





