Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Nenfwd ffrâm goed, Tŷ Gwyn, Abermo [delwedd 1 o 2]
Mae Tŷ Gwyn, Abermo, yn dyddio nôl i'r flwyddyn 1460 ac fe'i codwyd gan Gruffydd Fychan o Gorsygedol. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd tai brenhinol York a Lancaster yn ymladd yn erbyn ei gilydd yn yr ymrafael a elwir yn 'Rhyfel y Rhos'. Er bod mwyafrif teuluoedd bonheddig Gwynedd yn cefnogi'r Iorciaid, roedd Gruffydd Fychan yn gefnogwr brwd i'r Lancastriaid ac, yn ôl pob tebyg, aeth ati i godi Tŷ Gwyn fel man cyfarfod ar gyfer ei gyd-gefnogwyr Lancastriaidd. Mae Tŷ Gwyn yn sefyll ar ymyl y môr - disgrifiwyd ef gan y bardd Tudur Penllyn fel 'Tŷ a'i hanner mewn tonnau' - ac roedd felly yn cael ei ystyried yn fan diogel i lanio a hefyd yn gyfleus petai angen dianc yn sydyn i'r môr. Ym 1468, glaniodd Siasbar Tudur, Iarll Penfro, ac un o gefnogwyr mwyaf brwd y Lancastriaid, ar arfordir gogledd Cymru, ger Abermo o bosibl, ar ei ffordd i Ddinbych.
Cafodd Tŷ Gwyn ei adfer yn ystod yr 1980au ac mae ar agor i ymwelwyr. Bellach mae'r adeilad yn cynnig cartref parhaol i gasgliad llongddrylliad y 'Bronze Bell', sef llong a ddrylliwyd ger arfordir Dyffryn Ardudwy, nid nepell o Abermo, ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif.
Parhau i bori trwy Canolfan Dreftadaeth Eglwys Gadeiriol Aberhonddu
![Nenfwd ffrâm goed, Tŷ Gwyn, Abermo [delwedd 1 o 2]](uploads/pics/GTJ23471.jpg)
![Nenfwd ffrâm goed, Tŷ Gwyn, Abermo [delwedd 1 o 2]](uploads/pics/GTJ23472.jpg)
![Nenfwd ffrâm goed, Tŷ Gwyn, Abermo [delwedd 1 o 2]](uploads/pics/GTJ23473.jpg)
![Nenfwd ffrâm goed, Tŷ Gwyn, Abermo [delwedd 1 o 2]](uploads/pics/GTJ23474.jpg)
![Nenfwd ffrâm goed, Tŷ Gwyn, Abermo [delwedd 1 o 2]](uploads/pics/GTJ23477.jpg)