Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Baled 'Dic Sion Dafydd' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1
Ganed John Jones neu Jac Glan-y-gors (1766-1821) yng Nglan-y-gors, Cerrigydrudion, Sir Ddinbych. Aeth i Lundain ym 1789 ac erbyn 1793 ef oedd rheolwr neu berchennog y 'Canterbury Arms' yn Southwark. Roedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Gwyneddigion ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion ym 1795. Roedd Glan-y-gors yn fwyaf adnabyddus am ei gerddi a'i faledi dychanol a oedd yn adlewyrchu ei safbwyntiau radical. Yn y faled hon, mae'n cyflwyno portread dychanol o 'Dic Siôn Dafydd', sef Cymro ystradebol sydd wedi troi ei gefn ar yr iaith a'r diwylliant Cymraeg yn ei ymdrech i lwyddo yn Lloegr.
