Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

'Cerdd Betti o Lansantffraid' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1

'Cerdd Betti o Lansantffraid' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1 Ganed John Jones neu Jac Glan-y-gors (1766-1821) yng Nglan-y-gors, Cerrigydrudion, Sir Ddinbych. Aeth i Lundain ym 1789 ac erbyn 1793 ef oedd rheolwr neu berchennog y 'Canterbury Arms' yn Southwark. Roedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Gwyneddigion ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion ym 1795. Roedd Glan-y-gors yn fwyaf adnabyddus am ei gerddi a'i faledi dychanol a oedd yn adlewyrchu ei safbwyntiau radical. Yn y faled hon, mae Jac Glan-y-gors yn cyflwyno portread dychanol o 'Betti o Lansantffraid', Cymraes benchwiban sy'n mynd yn ysglyfaeth i ffasiynau Llundain. Ffynhonnell: Meic Stephens (gol.), 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' (Caerdydd, 1997).


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ18724

Daw'r eitem hon o: Y Llyfrgell Gymrei (Cyfeirnod yr eitem: Llyfrau Prin /Rare Books - Cerddi Bangor 22 (14)).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Parhau i bori trwy Criced

Yr eitem nesaf yn y pwnc:
'Cerdd Betti o Lansantffraid' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1'Cerdd Betti o Lansantffraid' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1'Cerdd Betti o Lansantffraid' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1'Cerdd Betti o Lansantffraid' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1'Cerdd Betti o Lansantffraid' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1'Cerdd Betti o Lansantffraid' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Mae gan yr eitem hon ragor o dudalennau
  Nesaf