Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Sampler a wnaed gan Mary Lewis, 2 Gorffennaf 1834

Sampler a wnaed gan Mary Lewis, 2 Gorffennaf 1834 Mae tŷ Georgaidd mawr yn dominyddu'r sampler fawr hon. Ar y naill ochr a'r llall iddo mae llinellau syth o goed gydag adar. Ar ymyl y sampler mae patrwm mes a dail derw, ac mae cynlluniau blodau a choed eraill wedi'u gwasgaru ar eu traws. Mae'r pennill brodiog yn darllen: 'For we know that if our earthly house of this tabernacle were dissolved we have a building of God an house not made with hands eternal in the heavens. For we must all appear before the judgement seat of Christ that every one may receive the things done in his body according to that he hath done whether it be good or bad.' Mae Coeden Gwybodaeth ac Adda ac Efa wedi eu brodio o dan y testun. Mae'r sampler hefyd yn cynnwys yr arysgrif ganlynol: 'Mary Lewis / work in the 13 / year of her age / July 2, 1834'. Mae'r geiriau 'Miss' and 'Hughes's School' wedi'u brodio ar y naill ochr a'r llall, ar waelod y sampler. Maent wedi'u brodio mewn pwyth croes, gyda sidanau a chotymau lliw, ar liain coeth. Mesuriadau: 58cm x 55cm.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ23004

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa Sir Gaerfyrddin (Cyfeirnod yr eitem: 1975:1876 ).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau