Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Peithynen neu lyfr pren, 1876

Peithynen neu lyfr pren, 1876 Cafodd y Peithynen, neu'r llyfr pren, ei ddyfeisio gan Iolo Morganwg (1747-1826) a gŵyr llen Morgannwg, i gefnogi eu honiadau eu bod yn ddisgynyddion i'r derwyddon. Mae llinellau cerdd wedi'u cerfio ar bedair ochr pob ffon. Yr enw ar y llawysgrif ryfedd yw 'coelbren y beirdd' neu wyddor y beirdd, a honnwyd mai dyma'r wyddor a ddefnyddiwyd gan y beirdd cynnar. Yn ddiweddarach, daeth yn amlwg i'r wyddor gael ei dyfeisio ar ddechrau'r 19eg ganrif gan Iolo Morganwg a'i gyfeillion. Enillodd y peithynen hwn wobr yn eisteddfod Wrecsam ym 1876.


Cyfeirnod yr eitem: : GTJ23026

Daw'r eitem hon o: Amgueddfa Sir Gaerfyrddin (Cyfeirnod yr eitem: 1981:0234 ).
Pob eitem o'r sefydliad / gan y cyfrannwr hwn

Os hoffech weld yr eitem wreiddiol, cysylltwch â'r sefydliad/cyfrannwr a enwir uchod. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â hawlfraint, cysylltwch â Culturenet Cymru. I weld datganiad hawliau Culturenet Cymru, pwyswch yma

Pynciau perthnasol

Erthyglau perthnasol

    Dim
Nid oes gan yr eitem hon dudalennau